Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Luc 18:4
Paid Ildio
7 Diwrnod
Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.
Ffydd
12 Diwrnod
Ydy gweld yn golygu credu? Neu ydy credu yn golygu gweld? Cwestiynau o ffydd yw rhain. Mae'r cynllun hwn yn cynnig astudiaeth ddwfn a manwl o ffydd - o bobol go iawn yn yr Hen Destament ddangosodd hyder a ffydd mewn sefyllfaoedd heriol hyd at ddysgeidiaeth Iesu ar y pwnc. Drwy'r darlleniadau byddi'n cael dy annog i ddyfnhau dy berthynas â Duw ac i ddilyn Iesu yn fwy ffyddlon.
Gweddi
21 niwrnod
Dysgwch sut i weddïo'n well, gan edrych ar weddïau'r saint a geiriau Iesu ei hun. Cewch eich ysbrydoli i ddod â'ch gweddïau bob dydd at Dduw, gydag amynedd a dyfalbarhad. Edrychwch ar esiamplau o weddïau gwag, hunan bwysig a'u cymharu gyda gweddïau syml y pur o galon. Daliwch ati i weddïo.
Y cynllun darllen gwell
28 Diwrnod
Wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy lethu, yn anfodlon, ac yn sownd mewn rhigol? Wyt ti'n hiraethu am fywyd gwell o ddydd i ddydd? Gair Duw yw'r canllaw i ddyddiau gwell. Yn ystod y cynllun hwn o 28 niwrnod, byddi'n darganfod ffyrdd o fyw bywyd da i fyw y math o fywyd da mae duw am i ti ei gael.