Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 13

Stori'r Pasg
7 Diwrnod
Sut fyddet ti'n gwario wythnos olaf dy fywyd petaet ti'n gwybod mai hon oedd yr olaf? Roedd wythnos olaf Iesu ar y ddaear yn llawn digwyddiadau cofiadwy, proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, gweddiau dwys, trafodaethau dwfn, gweithredoedd symbolaidd, a digwyddiadau fyddai'n newid y byd. Mae'r cynllun yma'n dechrau ar y dydd Llun cyn y Pasg, ac yn dy arwain drwy benodau'r pedair Efengyl sy'n adrodd hanes yr wythnos Sanctaidd.

Gad i ni ddarllen y Beibl gyda'n gilydd (Hydref)
31 Diwrnod
Rhan 10 o gyfres o 12, mae'r cynllun hwn yn arwain cymunedau drwy'r Beibl cyfan mewn 365 diwrnod. Gwahodda eraill i ymuno wrth i ti ddechrau rhan newydd bob mis. Mae'r cynllun yn gweithio'n dda gyda Beiblau sain - gwranda mewn llai nac 20 munud pob dydd! Mae pob adran yn cynnwys penodau o'r Hen Destament a Newydd a Salmau ar wasgar drwy'r cyfan. Mae rhan 10 yn cynnwys llyfrau Pregethwr, Ioan, Jeremeia, Galarnad.