Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Galatiaid 3:28

Bywyd o Ddyfnder
5 Diwrnod
Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.

Caru'n Fawr
5 Diwrnod
Mae Hosanna Wong yn gwybod yn union sut beth yw teimlo'n anweledig, yn annheilwng, ac heb fod wedi dy garu. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae hi’n dadbacio naw enw mae Duw yn dy alw di ac yn cynnig anogaeth ymarferol, syml i’th helpu di i ddatgelu celwyddau, gweld dy hun trwy lens Duw, a byw gydag osgo a phwrpas newydd.

Saith Allwedd i Gyfanrwydd Emosiynol
7 Diwrnod
Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.