Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 1 Ioan 1:9
Siarad â Duw drwy weddi
4 Diwrnod
Gall bywyd teuluol fod yn brysur a dŷn ni'n aml ddim yn cymryd yr amser i weddïo - heb sôn am helpu ein plant i feithrin yr arfer o gynnwys Duw yn eu diwrnod. Yn y cynllun hwn byddwn yn gweld gymaint mae Duw eisiau clywed gynnon ni a sut y gall gweddi gryfhau ein perthynas â'n gilydd. Mae pob dydd yn cynnwys awgrym gweddi, darlleniad byr o'r Beibl ac esboniad, gweithgaredd, a thrafodaeth a chwestiynau.
Gweithredoedd o Edifeirwch
5 Diwrnod
Mae edifarhau yn un o'r camau allweddol mae'n rhaid i ni ei gymryd i adnabod Crist fel Gwaredwr personol. Ni sy'n edifarhau a Duw sy'n maddau. Dyna ymateb ei gariad perffaith o tuag aton ni. Yn ystod y cynllun darllen 5-diwrnod yma byddi'n cael darlleniad dyddiol a myfyrdod defosiynol byr i'th helpu i ddeall yn well bwysigrwydd edifeirwch wrth ddilyn Crist.
Gelynion y Galon
5 Diwrnod
Yn union fel y gall calon fod yn gorfforol wael, gall calon sy'n wael yn emosiynol ac ysbrydol ddifrodi ti a dy berthynas ag eraill. Am y pum diwrnod nesaf, gad i Andy Stanley edrych arnat ti yn fewnol am bedwar gelyn cyffredin - euogrwydd, dicter, trachwant, a cenfigen - a'th ddysgu sut i gael gwared arnyn nhw.
Craig ac Amy Groeschel - From This Day Forward
7 Diwrnod
Gall dy briodas fod yn wych. Bydd dewisiadau heddiw yn pennu sut briodas gei di yfory. Mae'r gweinidog a'r awdur enwog Craig Groeschel a'i wraig, Amy, yn dangos sut mae pum ymrwymiad yn gallu helpu priodas gadarn: Ceisia Dduw, bydd yn deg, cael hwyl, aros yn bur, a dal ati. O hyn ymlaen cei briodas sydd wrth dy fodd.