Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Rhufeiniaid 1:18-25

Rhufeiniaid 1:18-25 CJW

Heblaw hyny, digofaint Duw á ddadguddir o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac annghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd drwy annghyfiawnder. Oblegid yr hyn à ellir ei wybod am Dduw sydd eglur yn eu mysg hwynt, canys Duw á’i heglurodd iddynt: (oblegid ei anweledig briodoliaethau ef, sef ei dragywyddol allu a’i dduwdod, èr crëad y byd, ydynt dra amlwg; yn cael eu hadnabod drwy ei weithredoedd:) hyd onid ydynt yn ddiesgus. Oblegid, èr eu bod yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, a ni buont ddiolchgar iddo; ond ynfyd yr aethant drwy eu rhesymiadau eu hunain, a’u calon anystyriol hwynt á dywyllwyd. Gan broffesu bod yn ddoethion, hwy á aethant yn ffyliaid: canys hwy á newidiasant ogoniant yr anfarwol Dduw, i gyffelybiaeth delw dyn marwol, ehediaid, anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. O ba erwydd, Duw hefyd, drwy drachwantau eu calonau eu hunain, á’u rhoddes hwynt i fyny i aflendid, i anmherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain. Y rhai á newidiasant y gwirionedd am Dduw yn gelwydd, ac á addolasant ac á wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sy fendigedig yn dragywydd. Amen.