Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 8

8
1-4A Saul oedd yn cydymfoddloni yn ei laddiad ef.
A bu yr amser hwnw erlid mawr àr y gynnulleidfa yn Nghaersalem; a hwy oll á wasgarwyd àr hyd gororau Iuwdea a Samaria, ond yr Apostolion. A gwŷr crefyddol á ddygasant Stephan ymaith, ac á wnaethant alar mawr am dano ef. Eithr Saul oedd yn anrheithio y gynnulleidfa, gàn fyned i fewn i dai, a llusgo gwŷr a gwragedd, y rhai á roddai efe yn ngharcbar. Er hyny, y rhai à wasgarasid, á dramwyasant gàn gyhoeddi newydd da y gair.
DOSBARTH VI.
Tröedigaeth y Samariaid, a Dygiad yr Efengyl i Ethiopia.
5-13Yna y daeth Phylip i ddinas Samaria, ac á gyhoeddodd y Messia iddynt. A’r bobl yn unfryd á ddaliasant àr y pethau à ddywedid gàn Phylip; fel yr oeddynt yn eu clywed, ac yn gweled y gwyrthiau yr oedd efe yn eu gwneuthur. Canys ysbrydion aflan, gàn lefain â llef uchel, á ddaethant allan o lawer à berchenogid ganddynt; a llawer o rai parlysig a chloffion, á iachâwyd. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hòno. Eithr rhyw wr a’i enw Simon, oedd o’r blaen, yn yr un ddinas, yn arfer dewiniaeth, ac yn sỳnu cenedl Samaria; gàn gymeryd arno fod yn rhyw un annghyffredin: i’r hwn yr oedd pawb, o’r lleiaf hyd y mwyaf, yn talu sylw, gàn ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. Ac yr oeddynt yn talu sylw iddo, herwydd darfod iddo, am hir amser, eu sỳnu hwynt à’i gyfareddion. Eithr pan roisant gred i Phylip, yn cyhoeddi y newydd da am deyrnas Duw, ac enw Iesu Grist; hwy á drochwyd yn wŷr ac yn wragedd. A Simon ei hun hefyd á gredodd; a gwedi ei drochi, á lynodd wrth Phylip, wrth weled, gyda syndod, y gwyrthiau mawrion a nerthol à wneid.
14-24A phan glybu yr Apostolion, y rhai oedd yn Nghaersalem, ddarfod i Samaria dderbyn gair Duw, hwy á ddanfonasant atynt Bedr ac Ioan; y rhai, gwedi eu dyfod i waered, á weddiasant drostynt, àr iddynt dderbyn yr Ysbryd Glan: (canys eto nid oedd efe gwedi syrthio àr neb o honynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu trochi i enw yr Arglwydd Iesu.) Yna y dodasant ddwylaw arnynt, a hwy á dderbyniasant yr Ysbryd Glan. A phan welodd Simon mai drwy arddodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glan, efe á gynnygiodd iddynt arian, gàn ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hwn, fel àr bwybynag y gosodwyf ddwylaw, y derbynio efe yr Ysbryd Glan. Eithr Pedr á ddywedodd wrtho, Eled dy arian gyda thi i ddystryw, am dybied o honot y gellid pwrcasu rhadionus ddawn Duw ag arian. Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn; oblegid nid yw dy galon di yn uniawn yn ngolwg Duw. Diwygia, gàn hyny, oddwrth dy ddrygioni hwn; a deisyf àr Dduw, os maddeuir, yn wir, i ti feddylfryd dy galon; canys mi á welaf dy fod mewn bustl chwerwder, a rhwymyn anwiredd. A Simon á atebodd ac á ddywedodd, Gweddiwch chwi àr yr Arglwydd drosof fi; fel na ddelo arnaf ddim o’r pethau à ddywedasoch.
25A gwedi iddynt ddwyn eu tystiolaeth, a llefaru gair yr Arglwydd, hwy á droisant yn eu hol i Gaersalem; ac á gyhoeddasant y Newydd da mewn llawer o bentrefi y Samariaid.
26-40A chènad i’r Arglwydd á lefarodd wrth Phylip, gàn ddywedyd, Cyfod, a dos tua ’r dëau, àr hyd y ffordd sydd yn myned i waered o Gaersalem i Gaza, yr hon sydd annghyfannedd. Ac efe á gyfododd, ac á gymerodd ei daith: ac, wele, rhyw swyddog Ethiopiaidd, pendefig i Gandace, brenines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd àr ei holl drysor hi, yr hwn á ddaethai i Gaersalem i addoli, oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Isaia. A dywedodd yr Ysbryd wrth Phylip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. A Phylip wedi rhedeg i fyny, á’i clybu ef yn darllen yn y proffwyd Isaia, ac á ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac yntau á ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddeithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe á ddymunodd àr Phylip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. A’r rhan o’r ysgrythyr yr oedd efe yn ei darllen, oedd hon, “Efe á arweiniwyd i’r lladdfa, fel dafad; a fel y mae oen gèr bron ei gneifiwr yn fud; felly nid agorodd yntau ei enau. Yn ei ddarostyngiad ei gollfarn á gymhellwyd drwy drais, a phwy á ddysgrifia ei genedlaeth ef? oblegid tòrir ymaith ei fywyd ef oddar y ddaiar.” A’r swyddog gàn ateb Phylip, á ddywedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae y proffwyd yn dywedyd hyn? – am dano ei hun, ai am rywun arall? Yna yr agorodd Phylip ei enau, a chàn ddechreu oddar yr ysgrythyr hon, á fynegodd iddo y Newydd da am Iesu. A fel yr oeddynt yn myned àr hyd y ffordd, hwy á ddaethant at ryw ddwfr, a’r swyddog á ddywedodd, Wele, ddwfr; beth sydd yn lluddias fy nhrochi? Ac efe á orchymynodd sefyll o’r cerbyd, a hwy á aethant i waered ill dau i’r dwfr Phylip a’r swyddog; ac efe á’i trochodd ef. A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd á gipiodd Phylip ymaith, a ni welodd y swyddog ef mwyach. Eithr Phylip á gaed yn Azotus: a chàn dramwy, efe á gyhoeddodd y Newydd da yn mhob dinas, hyd oni ddaeth efe i Gaisarea.

Právě zvoleno:

Gweithredoedd 8: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas