Gweithredoedd 24
24
DOSBARTH XV.
Paul, yn garcharor yn Nghaisarea, yn ymddangos o flaen y Rhaglawiaid Ffelics a Ffestus, a’r Brenin Agrippa, ac yn amddiffyn ei hun yn eu gwydd hwynt.
1-9Ac àr ol pumm niwrnod, yr archoffeiriad, Ananias, á ddaeth i waered, gyda ’r henuriaid, a rhyw areithiwr, a’i enw Tertùlus: a hwy á ymddangosasant gèr bron y rhaglaw, yn erbyn Paul. A gwedi ei alw ef, Tertùlus á ddechreuodd ei gyhuddo, gàn ddywedyd, Gàn ein bod ni trwot ti yn mwynâu heddwch mawr, a chàn bod pethau clodfawr yn cael eu gwneuthur mewn modd llwyddiannus i’r genedl hon, drwy dy ragddarbodaeth; yr ydym ni yn wastad, ac yn mhob màn, yn ei gydnabod, O ardderchocaf Ffelics, gyda phob diolchgarwch. Eithr, fel na flinwyf di yn mhellach, yr wyf yn deisyf arnat, gyda ’th hynawsedd arferol, wrandaw arnom àr fỳr eiriau; oblegid ni á gawsom y dyn hwn yn bla, ac yn gyfodwr terfysg yn mhlith yr holl Iuddewon drwy y byd; ac yn flaenor àr blaid y Nasarethiaid: yr hwn hefyd á amcanodd halogi y deml; a’r hwn á ddaliasom ni, ac à fỳnasem ei farnu yn ol ein cyfraith ni; ond Lysias, y cadben, wedi dyfod arnom gyda grym mawr, á’i dyg ef ymaith allan o’n dwylaw ni, ac á archodd iddei gyhuddwyr ddyfod atat ti; drwy yr hyn, wrth ei holi, y gelli dy hun wybod sicrwydd yr holl bethau hyn, yr ydym ni yn ei gyhuddo ef o honynt. A’r Iuddewon hefyd á gydsyniasant, gàn ddywedyd, bod y pethau hyn felly.
10-21Yna Paul, wedi i’r rhaglaw wneyd amnaid arno i lefaru, á atebodd, Gàn wybod dy fod di, O Ffelics! wedi bod dros lawer o flynyddoedd yn farnwr i’r genedl hon, yr wyf yn ateb drosof fy hun yn fwy llonfrydig: gàn y gelli wybod nad oes dros ddeg a dau ddiwrnod, èr pan aethym i fyny i addoli yn Nghaersalem; a ni chawsant fi yn dadleu â neb yn y deml, nac yn gwneuthur terfysg yn mhlith y bobl, nac yn y cynnullfëydd, nac yn y ddinas; nis gallant chwaith ddwyn un prawf o’r pethau, y maent yn fy nghyhuddo o’u plegid. Ond hyn yr wyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ol y ffordd à alwant hwy yn arblaid, felly yr wyf fi yn addoli Duw ein tadau; gàn gredu yr holl bethau à sydd ysgrifenedig yn y gyfraith, ac yn y proffwydi; a chenyf obaith àr Dduw, am yr hyn y maent hwy eu hunain hefyd yn ei ddysgwyl, y bydd adgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r annghyfiawnion. Ac o herwydd hyn, yr wyf yn ymarfer fy hun i gael cydwybod ddirwystr tuagat Dduw a dynion, yn wastadol. Ac, àr ol llawer o flynyddoedd, mi á ddaethym i ddwyn eluseni i’m cenedl, ac offrymau: àr hyny, rhyw Iuddewon o Asia á’m cawsant i gwedi fy nglanâu yn y deml; nid gyda thorf na therfysg: y rhai á ddylasent fod yn bresennol gèr dy fron di, a’m cyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn: neu dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, pan oeddwn yn sefyll o flaen y Sanhedrim; oddeithr ei fod am yr un gair hwn, à ddywedais i, pan oeddwn yn sefyll yn eu plith, – mai am adgyfodiad y meirw ym bernir heddyw genych.
22-23A phan glybu Ffelics y pethau hyn, efe á’u bwriodd hwynt heibio, gàn ddywedyd, Wedi y caffwyf hysbysrwydd manylach am y ffordd hon, pan ddelo Lysias, y cadben, i waered, mi á chwiliaf i’r achos rhyngoch chwi. Ac efe á archodd i’r canwriad gadw Paul, a gadael iddo gael rhyddid, a pheidio lluddias yr un o’i gyfeillion rhag ei gynnorthwyo ef, neu ddyfod ato.
24-27A gwedi rhai dyddiau, daeth Ffelics gyda ’i wraig Druwsila, yr hon oedd Iuddewes, ac á ỳrodd am Baul, ac á’i gwrandawodd ef yn nghylch y ffydd yn Nghrist. A fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, cymedroldeb, a barn à fydd, Ffelics wedi dychrynu, á atebodd, Dos ymaith àr hyn o bryd, a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi á alwaf am danat. Ac efe á obeithiai hefyd, y rhoddid arian iddo gàn Baul, èr ei ollwng ef yn rydd; ac, am hyny, efe á anfonai am dano yn fynychach, ac á chwedleuai ag ef. Ac, àr ol dwy flynedd, y daeth Portius Ffestus yn lle Ffelics; a Ffelics, yn chwennychu ymgaredigo â’r Iuddewon, á adawodd Baul yn garcharor.
Právě zvoleno:
Gweithredoedd 24: CJW
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.