Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 24:10-21

Gweithredoedd 24:10-21 CJW

Yna Paul, wedi i’r rhaglaw wneyd amnaid arno i lefaru, á atebodd, Gàn wybod dy fod di, O Ffelics! wedi bod dros lawer o flynyddoedd yn farnwr i’r genedl hon, yr wyf yn ateb drosof fy hun yn fwy llonfrydig: gàn y gelli wybod nad oes dros ddeg a dau ddiwrnod, èr pan aethym i fyny i addoli yn Nghaersalem; a ni chawsant fi yn dadleu â neb yn y deml, nac yn gwneuthur terfysg yn mhlith y bobl, nac yn y cynnullfëydd, nac yn y ddinas; nis gallant chwaith ddwyn un prawf o’r pethau, y maent yn fy nghyhuddo o’u plegid. Ond hyn yr wyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ol y ffordd à alwant hwy yn arblaid, felly yr wyf fi yn addoli Duw ein tadau; gàn gredu yr holl bethau à sydd ysgrifenedig yn y gyfraith, ac yn y proffwydi; a chenyf obaith àr Dduw, am yr hyn y maent hwy eu hunain hefyd yn ei ddysgwyl, y bydd adgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r annghyfiawnion. Ac o herwydd hyn, yr wyf yn ymarfer fy hun i gael cydwybod ddirwystr tuagat Dduw a dynion, yn wastadol. Ac, àr ol llawer o flynyddoedd, mi á ddaethym i ddwyn eluseni i’m cenedl, ac offrymau: àr hyny, rhyw Iuddewon o Asia á’m cawsant i gwedi fy nglanâu yn y deml; nid gyda thorf na therfysg: y rhai á ddylasent fod yn bresennol gèr dy fron di, a’m cyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn: neu dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, pan oeddwn yn sefyll o flaen y Sanhedrim; oddeithr ei fod am yr un gair hwn, à ddywedais i, pan oeddwn yn sefyll yn eu plith, – mai am adgyfodiad y meirw ym bernir heddyw genych.