Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 21:1-14

Gweithredoedd 21:1-14 CJW

A chygynted ag yr ymadawsom â hwynt, a gosod allan, ni á ddaethom yn uniongyrch i Goos, a thranoeth i Rodes, ac oddyno i Batara. A gwedi i ni gael llong yn myned drosodd i Phenice, ni á ddringasom iddi, ac á aethom allan i’r môr. A gwedi i ni ddyfod i olwg Cyprus, a’i gadael hi àr y llaw aswy, ni á hwyliasom i Syria, ac á diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. A ni á arosasom yno saith niwrnod, wedi cael dysgyblion, y rhai á ddywedasant i Baul, drwy yr Ysbryd, am beidio myned i fyny i Gaersalem. Ond wedi gorphen o honom y saith niwrnod hyn, ni á ymadawsom, ac á gychwynasom; a hwy oll á’n hebryngasant ni allan o’r ddinas, yn nghyd â’u gwragedd a’u plant; a, gwedi i ni ostwng àr ein gliniau àr y traeth, ni á weddiasom. A gwedi i ni gofleidio ein gilydd, ni á ddringasom i’r llong; a hwythau á ddychwelasant iddeu cartref. A gwedi i ni orphen ein mordraith, ni á ddaethom o Dyrus i Btolemais, a gwedi i ni gofleidio y brodyr, ni á arosasom gyda hwynt un diwrnod. A thranoeth yr ymadawsom, ac y daethom i Gaisarea; a gwedi i ni fyned i fewn i dŷ Phylip yr efengylwr, yr hwn oedd un o’r saith, ni á letyasom gydag ef. Ac i hwn yr oedd pedair merch o wyryfon, y rhai oeddynt broffwydesau. A fel yr oeddym yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Iuwdea broffwyd a’i enw Agabus; a gwedi dyfod atom, efe á gymerodd wregys Paul, a gwedi iddo rwymo ei ddwylaw ei hun a’i draed, efe á ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Ysbryd Glan, Felly y rhwym yr Iuddewon yn Nghaersalem y gwr bïau y gwregys hwn, ac á’i traddodant ef i ddwylaw y Cenedloedd. A phan glywsom y pethau hyn, nyni a phreswylwyr y lle hwnw hefyd, á ddeisyfasom arno beidio myned i fyny i Gaersalem. Ond Paul á atebodd, Beth á wnewch chwi yn wylo, ac yn tòri fy nghalon i? canys parod ydwyf, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond i farw hefyd yn Nghaersalem, dros enw yr Arglwydd Iesu. A phan na ellid ei ddarbwyllo, ni á beidiasom; gàn ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd á wneler.