Gweithredoedd 15
15
DOSBARTH XI.
Penderfyniad y Ddadl yn nghylch Derbyniad y Cenedloedd i Deyrnas y Messia, gàn yr Apostolion, yr Henuriaid, a holl Gynnulleidfa y Brodyr o’r Iuddewon, yn Nghaersalem.
1-5Yn y cyfamser, rhywrai, gwedi dyfod i waered o Iuwdea, á ddysgasant y brodyr, Oddeithr eich enwaedu chwi, yn ol defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. Pan ydoedd, gàn hyny, ymryson a dadleu nid bychan, gan Baul a Barnabas yn eu herbyn; hwy á benderfynasant i Baul a Barnabas, a rhai ereill o honynt, fyned i fyny i Gaersalem, at yr Apostolion a’r henuriaid, yn nghylch y ddadl yma. Hwythau, gàn hyny, gwedi eu hebrwng gàn y gynnulleidfa, á aethant drwy Phenice a Samaria, gàn fynegi tröedigaeth y Cenedloedd; a hwy á berasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. A gwedi iddynt gyrhaedd Caersalem, hwy á dderbyniwyd gàn y gynnulleidfa, a chàn yr Apostolion, a’r henuriaid; a hwy á adroddasant pa bethau á wnaethai Duw gyda hwynt. Eithr rhai o arblaid y Phariseaid, y rhai oedd yn credu, á gyfodasant ac á ddywedasant, mai rhaid oedd eu henwaedu, a gorchymyn iddynt gadw cyfraith Moses.
6-21A’r Apostolion a’r henuriaid á ymgynnullasant yn nghyd, i ymgynghori àr y mater hwn. A gwedi bod ymddadleu mawr, cododd Pedr i fyny, ac á ddywedodd wrthynt, Frodyr, chwi á wyddoch, ddarfod i Dduw, er ys talm o amser yn ol, yn ein plith ni ddewis, bod i’r Cenedloedd, drwy fy ngenau i, gael clywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr y calonau, á ddyg dystiolaeth iddynt, gàn roddi iddynt yr Ysbryd Glan, megys y gwnaethai i ninnau: a ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gwedi puro eu calonau hwy drwy ffydd. Yn awr, gàn hyny, paham yr ydych chwi yn temtio Duw, drwy ddodi iau àr wàrau y dysgyblion, yr hon ni allai ein tadau na ninnau ei dwyn? Eithr drwy radioni yr Arglwydd Iesu, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd a hwythau. A’r holl liaws á ddystawodd, ac á wrandawodd àr Farnabas a Phaul; yn adrodd pa arwyddion a rhyfeddodau á wnaethai Duw yn mhlith y cenedloedd, drwyddynt hwy. Yna gwedi iddynt orphen llefaru, atebodd Iago, gàn ddywedyd, Frodyr, gwrandewch arnaf fi. Y mae Simon wedi bod yn adrodd, pa wedd yr edrychodd Duw gyntaf i lawr àr y Cenedloedd, i gymeryd o’u plith bobl iddei enw. Ac â hyn y cysona geiriau y proffwydi; megys y mae yn ysgrifenedig, “Ar ol hyn y dychwelaf, ac yr ailadeiladaf babell Dafydd, yr hon sy gwedi syrthio; gwnaf, mi á ailadeiladaf ei hadfeiliau, ac á’i gosodaf yn uniawn drachefn; fel y byddo i’r gweddil o ddynion geisio yr Arglwydd, sef yr holl genedloedd y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd,” yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn, hysbys iddo ef o’r dechreuad. Herwydd paham, fy marn i yw, nad aflonyddom y rhai o’r Cenedloedd à droisant at Dduw; ond ysgrifenu o honom atynt, àr iddynt ymgadw oddwrth halogedigaeth delwau, ac oddwrth buteindra, ac oddwrth y peth à dagwyd, ac oddwrth waed. Oblegid y mae i Foses, èr y cynamseroedd, rai à’i pregethant ef, yn mhob dinas, gàn gael ei ddarllen yn y cynnullfëydd bob Seibiaeth.
22-23Yna y gwelwyd yn dda gàn yr Apostolion a’r henuriaid, a’r holl gynnulleidfa, ddanfon i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas, wŷr etholedig o’u plith eu hunain, sef, Iuwdas, à gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr o’r cyfrifiad pènaf yn mhlith y brodyr; gàn ysgrifenu gyda hwynt y pethau hyn: –
Yr Apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr o blith y Cenedloedd yn Antiochia, a Syria, a Chilicia, yn anfon anerch: –
24-29Yn gymaint a chlywed o honom ni, i rai à aethant allan oddwrthym ni, i’r sawl ni roisom gènadwriaeth, eich trallodi chwi ag ymadroddion, gàn ansefydlogi eich meddyliau, drwy ddywedyd bod rhaid enwaedu arnoch, ac i chwi gadw y ddeddf: nyni, gwedi ymgynnull o un fryd, á welsom yn dda anfon atoch wŷr etholedig, gyda ’n hanwyliaid Barnabas a Phaul; gwŷr à anturiasant eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. Ni á ddanfonasom, gàn hyny, Iuwdas a Silas; a hwythau àr air á fynegant i chwi yr un pethau. Canys gwelwyd yn dda gàn yr Ysbryd Glan, a chenym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na’r pethau rheidiol hyn; bod i chwi ymgadw oddwrth eilunaberthau, ac oddwrth waed, ac oddwrth beth á dagwyd, ac oddwrth buteindra: oddwrth yr hyn bethau, chwi à wnewch yn dda ymgadw. Byddwch iach.
30-35Hwynthwy, gàn hyny, gwedi eu gollwng ymaith, á ddaethant i Antiochia; a gwedi cynnull y lliaws yn nghyd, hwy á roisant y llythyr. A gwedi iddynt ei ddarllen, llawenychu á wnaethant am y dyddanwch à ddygai. Iuwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, drwy lawer o ymadrodd, á gynghorasant y brodyr, ac á’u cadarnâasant. A gwedi iddynt aros yno am beth amser, hwy á ollyngwyd ymaith mewn heddwch oddwrth y brodyr at yr Apostolion. Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno. Paul hefyd, a Barnabas, gyda llawer ereill, á arosasant yn Antiochia; gàn ddysgu a chyhoeddi daionus air yr Arglwydd.
36-41A gwedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Farnabas, Dychwelwn ac ymwelwn â’r brodyr yn mhob dinas lle y cyhoeddasom air yr Arglwydd; i weled pa fodd y maent hwy. A Barnabas á benderfynodd gymeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn á gyfenwid Marc. Ond ni welai Paul yn addas gymeryd hwnw gyda hwynt, yr hwn á giliasai oddwrthynt yn Mhamphylia; a nid aethai gyda hwynt i’r gwaith. Bu gàn hyny ias o ddigofaint, fel yr ymadawsant oddwrth eu gilydd; a Barnabas, wedi cymeryd Marc gydag ef, á fordwyodd i Gyprus. Ond Paul á ddewisodd Silas, ac á ymadawodd; wedi ei orchymyn i rad Duw gàn y brodyr. Ac efe á dramwyodd drwy Syria a Chilicia, gàn gadarnâu y cynnulleidfäoedd; ac á ddaeth i Dderbe a Lystra:
Právě zvoleno:
Gweithredoedd 15: CJW
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.