Gweithredoedd 13
13
DOSBARTH X.
Teithiau a llwyddiant Paul a Barnabus, wrth gyhoedddi y Newydd Da, mewn amryfal fànau.
1-12Yr oedd hefyd yn y gynnulleidfa ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; yn enwedig Barnabas, a Symeon, yr hwn á elwid Niger, a Lucius, y Cyreniad, a Manäen, yr hwn á ddygwyd i fyny gyda Herod y pedrarch, a Saul. A fel yr oeddynt yn gweini i’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glan, Neillduwch i mi Farnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo. A gwedi iddynt ymprydio a gweddio, a gosod dwylaw arnynt; hwy á’u gollyngasant ymaith. Hwythau, gàn hyny, gwedi eu danfon gàn yr Ysbryd Glan, á aethant i Seleucia; ac oddyno á fordwyasant i Gyprus, a gwedi iddynt gyrhaedd Salamis, hwy á gyhoeddasant air Duw yn nghynnullfa yr Iuddewon; ac yr oedd ganddynt hefyd Ioan yn weinydd iddynt. A gwedi iddynt dramwy drwy yr ynys hyd Baphos, hwy á gawsant ryw Iuddew, swynwr a geubroffwyd, a’i enw Bar‐iesu; yr hwn oedd gyda ’r rhaglaw, Sergius Paulus, gwr call; yr hwn, wedi galw ato Farnabas a Saul, á ddeisyfodd gael clywed gair Duw. Eithr Elymas y swynwr, (canys dyma oedd ei enw, pan gyfieithir,) á’u gwrthwynebodd hwynt, gàn geisio gwyrdroi y rhaglaw oddwrth y ffydd. Yna Saul, (yr hwn hefyd á elwir Paul,) yn llawn o’r Ysbryd Glan, wedi edrych yn graff arno, á ddywedodd, O! gyflawn o bob twyll, ac o bob ysgelerder! mab y diafol! gelyn pob cyfiawnder! oni pheidi di a gwyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd? Ac, wele, yn awr y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi á fyddi ddall, a heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe á aeth oddamgylch, gàn geisio rhai iddei arwain erbyn ei law. Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn à wnaethid, á gredodd; gàn ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
13-41A gwedi hwylio o Baphos, y rhai oedd gyda Phaul, á ddaethant i Berga, yn Mhamphylia; eithr Ioan á enciliodd oddwrthynt, ac á ddychwelodd i Gaersalem. Er hyny, hwynthwy, gwedi myned rhagddynt o Berga, á ddaethant i Antiochia, yn Mhisidia; a gwedi iddynt fyned i fewn i’r gynnullfa àr ddydd y Seibiaeth, hwy á eisteddasant. Ac àr ol darlleniad y gyfraith a’r proffwydi; penaethiaid y gynnullfa á ddanfonasant atynt, gàn ddywedyd, Frodyr, od oes genych air o gynghor i’r bobl, traethwch. Yna Paul á gododd i fyny, a chàn amneidio â’i law, á ddywedodd, Wŷr Israel, a chwi y rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch. Duw y bobl hyn á ddewisodd ein tadau ni, ac á gododd y bobl pan oeddynt yn ymdeithio yn ngwlad yr Aifft; ac â braich ddyrchafedig yr arweiniodd efe hwynt allan o honi. A thros yspaid tua deugain mlynedd, y goddefodd efe eu hymarweddiad yn yr anialwch. A gwedi iddo fwrw allan saith genedl yn nhir Canaan, efe á ddosbarthodd wlad y rhai hyny iddynt hwy yn etifeddiaeth. Ac àr ol y gorchwyliaethau hyn, y rhai á barâasant yn nghylch pedwarcant a phumdeg o flynyddoedd; efe á roddes farnwyr iddynt, hyd Samuwel y proffwyd. Ac, o’r amser hwnw, y dymunasant gael brenin: a Duw á roddes iddynt Saul, mab Cis, gwr o lwyth Beniamin, dros yspaid deugain mlynedd. A gwedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Ddafydd yn frenin iddynt: yr hwn hefyd á arganmolodd efe, ac á ddywedodd, “Cefais Ddafydd, mab Iesse, gwr yn ol fy nghalon, yr hwn á wna fy holl ewyllys.” O had hwn, yn ol yr addewid, y cyfododd Duw i Israel, yr Iachawdwr Iesu; gwedi i Ioan, èr arwain i fewn ei ymddangosiad ef, o’r blaen bregethu trochiad diwygiad i holl bobl Israel. A phan oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe á ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw Efe; ond wele y mae un yn dyfod àr fy ol i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddattod esgidiau ei draed. Frodyr, plant o deulu Abraham, a’r sawl yn eich plith sydd yn ofni Duw; i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon: canys preswylwyr Caersalem, a’u penaethiaid, heb ei adnabod ef, na dywediadau y proffwydi, y rhai á ddarllenir bob Seibiaeth, á’u cyflawnasant drwy ei euogfarnu ef. Ac èr nas gallent gael dim achos angeu ynddo ef; èr hyny hwy á ddymunasant àr Bilat fod iddo gael ei ddienyddu. A gwedi iddynt gyflawni pob peth à ysgrifenasid am dano ef, hwy á’i tynasant ef i lawr oddar y groes, ac á’i dodasant mewn tomawd. Eithr Duw á’i cyfododd ef oddwrth y meirw: ac efe á ymddangosodd dros ddyddiau lawer i’r rhai à ddaethent i fyny gydag ef o Alilea i Gaersalem, y rhai ydynt dystion iddo wrth y bobl. Ac yr ydym ni yn dwyn i chwi Newydd da, ddarfod i Dduw gyflawni yr addewid hòno à wnaed i’r tadau, i ni eu plant hwy, drwy adgyfodi Iesu; megys y mae yn ysgrifenedig hefyd yn yr ail Salm, “Tydi yw fy Mab, myfi heddyw á’th genedlais di.” Ac am iddo ei gyfodi ef o feirw, byth i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, “Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.” Am hyny, hefyd, y mae yn dywedyd mewn lle arall, “Ni adewi i’th Sant weled llygredigaeth.” Ond Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genedlaeth ei hun, yn ol ewyllys Duw, á hunodd, ac á gasglwyd at ei dadau, ac á welodd lygredigaeth. Eithr yr hwn à gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth. Bydded hysbys i chwi, gàn hyny, frodyr, mai drwy Hwn yr ydys yn cyhoeddi i chwi faddeuant pechodau; a thrwy Hwn y cyfiawnêir pob un sydd yn credu, oddwrth yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnâu oddwrthynt. Gwyliwch, gàn hyny, na ddelo arnoch yr hyn à ddywedwyd yn y proffwydi: “Edrychwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflènwch; canys yr wyf yn gwneuthur gwaith yn eich dyddiau, gwaith ni choeliwch, èr i un ei fynegi i chwi yn eglur.”
42-43A phan oeddynt yn myned allan, hwy á attolygasant gael llefaru y geiriau hyn iddynt y Seibiaeth canlynol. A gwedi gollwng y gynnulleidfa, llawer o’r Iuddewon, ac o’r troedigion crefyddol, á ganlynasant Baul a Barnabas; y rhai gàn lefaru wrthynt, á’u cynghorasant i aros yn rhadioni Duw.
44-52Ac àr y Seibiaeth canlynol, yr holl ddinas agos á ymgasglodd yn nghyd i wrandaw gair Duw. Eithr yr Iuddewon, pan welsant y tyrfëydd, á lanwyd o eiddigedd; ac á wrthwynebasant y pethau à lefarid gàn Baul, gàn wrthddywedyd a chablu. Yna Paul a Barnabas, gyda mawr ryddineb ymadrodd, á ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf; ond gàn eich bod yn ei wthio ymaith oddwrthych, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol; wele yr ydym yn troi at y Cenedloedd. Canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gàn ddywedyd, “Mi á’th osodais di yn oleuni i’r Cenedloedd, i fod o honot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar.” A’r Cenedloedd pan glywsant hyn, á lawenychasant, ac á ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynnifer ag oedd wedi eu tueddu am fywyd tragwyddol, á gredasant. A gair yr Arglwydd á danwyd drwy yr holl wlad hòno. Eithr yr Iuddewon á annogasant rai gwragedd crefyddol o radd uchel, a phènaethiaid y ddinas; ac á godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac á’u bwriasant hwy allan o’u tiriogaethau. A hwy á ysgwydasant y llwch oddwrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac á ddaethant i Iconium. Eithr y dysgyblion á lanwyd o lawenydd, ac o’r Ysbryd Glan.
Právě zvoleno:
Gweithredoedd 13: CJW
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.