Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 10

10
DOSBARTH VIII.
Galwedigaeth y Cenedloedd.
1-16Yr oedd rhyw wr yn Nghaisarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r Fyddin à elwid yr Eidalaidd, gwr duwiolfryd, ac yn ofni Duw, yn nghyd â’i holl dŷ; yn rhoddi, hefyd, lawer o elusenau i’r bobl, ac yn gweddio àr Dduw yn wastadol. Efe á welodd yn eglur mewn gweledigaeth, yn nghylch y nawfed awr o’r dydd, gènad i Dduw yn dyfod i fewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius! A gwedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe á ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe á ddywedodd wrtho, Dy weddiau di a’th elusenau á ddyrchafasant, megys coffadwriaeth gèr bron Duw. Ac yn awr anfon wŷr i Ioppa, a gỳr am Simon, cyfenw yr hwn yw Pedr: y mae efe yn llettya gydag un Simon, crwyngyffeithydd, tŷ yr hwn sydd wrth y môr. Cygynted gàn hyny ag yr ymadawodd y gènad, oedd yn llefaru wrth Gornelius, efe á alwodd àr ddau o weision ei dŷ, a milwr duwiolfryd, o’r rhai oedd yn gweini iddo; a gwedi iddo fynegi iddynt yr holl bethau hyn, efe á’u hanfonodd hwynt i Ioppa. Tranoeth, tra yr oeddynt àr eu taith, ac yn nesâu at y ddinas; Pedr á aeth i fyny àr ben y tŷ i weddio, yn nghylch y chwechfed awr. A daeth arno newyn mawr, ac efe á chwennychai gael bwyd; ond tra yr oeddynt yn parotoi, efe á syrthiodd i berlewyg; ac efe á welai y nef yn agored, a rhywbeth yn disgyn fel llenlian mawr, wedi ei rwymo wrth ei bedair congl, a’i ollwng i waered hyd y ddaiar: yn yr hwn yr oedd pob math o bethau, yn bedwartroedogion y ddaiar, ac yn wylltfilod, ac yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid yr awyr. A daeth llef ato, Cyfod, Pedr, lladd a bwyta. Ond Pedr á ddywedodd, Nid felly ddim, Arglwydd; canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan. A’r llef á ddywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Y pethau à lanâodd Duw, na alw di yn gyffredin. A hyn á wnaed dair gwaith, a’r llen á gymerwyd drachefn i fyny i’r nef.
17-24Tra yr oedd Pedr yn petruso ynddo ei hun, beth á allasai y weledigaeth à welsai arwyddocâu; wele y gwŷr, à ddanfonasid oddwrth Gornelius, wedi ymorol am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y drws; a gwedi iddynt alw, hwy á ofynasant á oedd Simon, à gyfenwid Pedr, yn llettya yno. A fel yr oedd Pedr yn adfyfyrio àr y weledigaeth; dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele, dri o wŷr yn dy geisio di: cyfod, gàn hyny, dos i lawr, a cherdd gyda hwynt, heb betruso dim; o herwydd myfi á’u danfonais hwynt. Yna yr aeth Pedr i lawr at y gwŷr, à ddanfonasid oddwrth Gornelius ato; ac á ddywedodd, Wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio; beth yw yr achos o’ch dyfodiad? Hwythau á ddywedasant, Cornelius y canwriad, gwr cyfiawn, yr hwn sydd yn ofni Duw, ac â gair da iddo gàn yr holl genedl Iuddewig, á rybyddiwyd gàn gènad santaidd, i ddanfon am danat ti iddei dŷ, ac i wrandaw geiriau genyt. Wedi iddo, gàn hyny, eu galw hwynt i fewn, efe á’u harfollodd hwynt, a thranoeth efe á gychwnodd gyda hwynt: a rhai o’r brodyr o Ioppa, á aethant gydag ef. A thranoeth yr aethant i fewn i Gaisarea; ac yr oedd Cornelius yn dysgwyl am danynt, wedi galw ei geraint a’i anwyl gyfeillion yn nghyd.
25-33A fel yr oedd Pedr yn dyfod i fewn, Cornelius á gyfarfu ag ef, a chàn syrthio wrth ei draed, efe á ymgrymodd iddo. Eithr Pedr á’i cyfododd ef i fyny, gàn ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. A thàn ymddyddan ag ef, efe á aeth i fewn, ac á gafodd lawer wedi ymgynnull yn nghyd. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Chwi á wyddoch mai annghyfreithlawn yw i wr o Iuddew ymgyssylltu ag un o genedl arall, neu ddyfod i fewn iddei dŷ; èr hyny, Duw á ddangosodd i mi, nad wyf i alw neb yn gyffredin neu yn aflan. Am hyny, pan anfonwyd am danaf, myfi á ddaethym heb wrthddywedyd dim: yr wyf yn gofyn, gàn hyny, am ba achos y danfonasoch am danaf? A Chornelius á ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod yn ol, yr oeddwn yn ymprydio hyd yr awr hon; ac àr y nawfed awr yr oeddwn yn gweddio yn fy nhŷ; ac wele, safodd gwr gèr fy mron mewn gwisg ddysglaer, ac á ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusenau á ddaethant mewn coffa gèr bron Duw: am hyny anfon i Ioppa, a galw am Simon, yr hwn á gyfenwir Pedr; y mae efe yn llettya yn nhŷ un Simon, crwyngyffeithydd, wrth làn y môr; yr hwn, pan ddelo, á lefara wrthyt. Am hyny yn ddioed myfi á anfonais atat, a thi á wnaethost yn dda ddyfod. Yr awrhon, gàn hyny, yr ydym ni oll yma yn bresennol gèr bron Duw, i wrandaw yr holl bethau à orchymynwyd i ti gàn Ddnw.
34-47Yna Pedr á agorodd ei enau, ac á ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb; ond yn mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder, sy gymeradwy ganddo ef. Dyma y genadwri à ddanfonodd efe at blant Israel; gàn gyhoeddi newydd da tangnefedd drwy Iesu Grist, yr hwn yw Arglwydd pawb oll. Chychwi á wyddoch y son à fu drwy holl Iuwdea, yr hwn á ddechreuodd o Alilea, gwedi y trochiad à bregethodd Iöan, am Iesu o Nasareth; y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd Glan, ac â nerth; yr hwn á gerddai o amgylch gàn wneuthur daioni, ac iachâu pawb à orthrymid gàn y diafol; oblegid yr oedd Duw gydag ef. Ac yr ydym ni yn dystion o’r holl bethau à wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon, ac yn Nghaersalem; yr hwn á laddasant, drwy ei grogi àr bren. Hwn á gyfododd Duw y trydydd dydd, ac á adawodd iddo ddyfod yn amlwg; nid i’r bobl oll, ond i dystion à ragbènodwyd gàn Dduw, sef i ni, y rhai á fwytasom ac á yfasom gydag ef, wedi ei adgyfodi ef o feirw. Ac efe á orchymynodd i ni gyhoeddi i’r bobl, a thystiolaethu mai efe yw yr hwn à arbènodwyd gàn Dduw yn Farnwr byw a meirw. I hwn y mae yr holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb à gredo ynddo ef faddeuant pechodau, drwy ei enw ef. A Phedr eto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glan àr bawb à oedd yn clywed y gair: a’r rhai o’r enwaediad, à oeddynt yn credu, cynnifer à ddaethent gyda Phedr, á sỳnasant am dywallt dawn yr Ysbryd Glan àr y Cenedloedd hefyd: oblegid yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru mewn amryfal ieithoedd, ac yn gogoneddu Duw. Yna yr atebodd Pedr, A all neb luddias dwfr, fel na throcher y rhai hyn, y rhai á dderbyniasant yr Ysbryd Glan, fel ninnau?
48Ac efe á orchymynodd eu trochi hwynt yn enw yr Arglwydd. A hwy á ddeisyfasant arno aros gyda hwy enyd o ddyddiau.

Právě zvoleno:

Gweithredoedd 10: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas