Matthew 3
3
Pen. iij.
Swydd, athrawaeth a buchedd Ioan. Ceryddy y Pharisaiait. Am ffrwythau edifeirwch. Betyddio Christ yn Iorddonen, A i awdurdodi gan Dduw ei Dat.
1AC yn y dyddiae hyny, y daeth Ioan Vatyddiwr ac a precethawdd yn‐diffaith Iudaea, 2ac a ddyvot, Edifarewch: can vot teyrnas nef yn gyfagos. 3Can ys hwn yw ef am bwy vn y dywetwyt gan y Prophwyt Esaias, gan ddywedyt, Llef #3:3 * criwr, vn yn llefainllafarydd yn y diffaith, paratowch ffordd yr Arglwydd: vniownwch y lwybrae ef. 4A’r Ioan hwnaw oedd ai ddillat o vlew camel, a gwregis o groen yn‐cylch ei #3:4 ‡ llwyfenelwyni: ai vwyt ef oedd #3:4 * keilogot rhedynlocustae a mel gwyllt. 5Yno ydd aeth allan atto Gaerusalem ac oll Iudaea, a’r oll wlat #3:5 ‡ oboppartho ddi amgylch Iorddanen. 6Ac ei batyddiwyt wy ganthaw yn Iorddonen, gan #3:6 * addefgyffessy ei pechotae. 7A’phan welawdd ef lawer o’r Pharisaiait ac or Sadduceit yn dywot y’w vetydd ef, y dyvot wrthynt, A genedleth #3:7 * nadroeddgwiperoedd, pwy ach rac rybyddiawdd i #3:7 ‡ ffogiliaw rac y #3:7 * irlonedd, llid, dial ar ddawotdigofeint a ddelai? 8Can hynny dygwch ffrwythae teilwng i #3:8 ‡ wellaat bucheddedifeirwch. 9Ac na veddyliwch ddywedyt ynoch eich unain, Y mae #3:9 ‡ ygenym ni Abraham yn dat i ni: can ys dyweddaf ychwi, y #3:9 * galldychon Duw o’r main hyn gyfodi i vyny blant i Abraham. 10Ac yr awrhō hefyt y gosodwyt y vwyall ar wreiddyn y preniae: can hyny pop pren, ar ny ddwc ffrwyth da, a #3:10 ‡ dorir, a gymynirdrychir i lawr, ac a #3:10 * vwrirdavlir #3:10 ‡ ynir tan. 11Myvi yn ddiau ach betyddiaf a dwfyr er #3:11 * gwellat bucheddedifeirwch, eithyr hwn a ddaw ar v’ol i, ys y gadarnach na myvi, a’ei escidiae nid wyf deilwng y’w dwyn: efe ach betyddia a’r Yspryt glan, ac a than. 12Yr hwn ’sydd aei vvogr yn ei law, ac a #3:12 ‡ lanagarth ei lawr, ac a gasel ei wenith yw yscupawr, anid yr #3:12 * gwanusvs a lysc ef a than #3:12 ‡ ny ddiffoddirdiddiffoddadwy.
13¶ Yno y daeth yr Iesu o’r Galilaea i Iorddanen at Ioan, yw vetyddio y ganthaw. 14Eithr Ioan y #3:14 * goharddoddgwrthladdawdd ef, can dywedyt. Mae arnaf eisiae vy‐betyddiaw y genyti, a’ thi a ddeuy atafi? 15Yno ’r Iesu gan atep, a ddyvot wrthaw, Gad yr awrhon: can val hyn y gwedda y ni gyflawni pop cyfiawnder. Yno y gadawodd yddaw. 16A’r Iesu wedi ei vetyddio, a ddaeth yn y van i vynydd o’r dwfr. Ac wely, y nefoedd a agorwyt iddaw, ac Ioan a welawdd Yspryt Duw yn descen val colomben, ac yn dewot arnaw ef. 17A’ nycha, llef o’r nefoedd yn dywedyt, Hwn yw vy caredic Vap, yn yr hwn im boddlonir.
Právě zvoleno:
Matthew 3: SBY1567
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat
Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
© Cymdeithas y Beibl 2018