Psalmau 12
12
Y Psalm. XII. Englyn Unodl Grwcca.
1Kadw fi Duw kydfod ion
Kofus nad oes wr kyfion:
Nid oes ffieidhloes dyn ffydhlon ond drwg
Yn trigo ymysg dynion.
2Mae ’n wagedh y managant
Vn wrth arall gwall i gant:
Ae genau hwythau gwenhcithiant minffug,
Amwynffals y dwedant.
3E dyrr Duw i diriaid air,
Ae gwefus felus fowlair:
Ae tafawd parawd nid purair dadwrdh,
Sy ’n dwedyd mefl mowrair.
4Or rhai a dhwedai ’n dhideg
Bûdh dhyfod on tafod teg:
Ni piau ’n genau an gwaneg evrglaim,
Pwy yw ’n arglwydh.
5Am orthrech truan hanes
Ychneidion tylodion les:
Kyfodaf medh naf dof yn nes; Rydhion,
Rodhaf bawb a fagles.
6Geiriau fy ner hyder hawdh,
Geiriau purion gwir parawdh:
Fal arian yn lan ni lynawdh sothach,
A seithwaith i purawdh.
7Dydi ae kedwi rhag hawl
Ked wi bawb dihockedawl:
Rag kaeth genhedlaeth gwnn hawl Duw keidwad
Di ae kedwi ’n dragwydhawl.
8Y rhai drwg kilwg koeliwch
Yn rhedegfain truain frwch:
Mawr gywilydh sydh heb nos hedhwch draw,
Os rhai drwg a berchwch.
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Psalmau 12: SC1595
بەرچاوکردن
هاوبەشی بکە
لەبەرگرتنەوە

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.