Matthew 28
28
Adgyfodiad Crist
[Marc 16:1–8; Luc 24:1–11; Ioan 20:1–2]
1Ac yn hwyr#28:1 Gr. opse Sabbatôn, yr hwn ymadrodd a gyfieithir mewn amrywiol ffyrdd megys (1) yn niwedd Sabbath; (2) ar ol y Sabbath: [golyga opse ar ol weithiau], pan yr oedd y Sabbath drosodd; (3) yn niwedd yr wythnos [Golyga Sabbata, yn y rhif lluosog, wythnos yn gystal a dydd Sabbath, Marc 16:2; Luc 24:1; Ioan 20:1, 19.] y Sabbath, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos#28:1 Llyth.: i'r cyntaf o'r Sabbathau, hyny yw, y dydd cyntaf or ol y Sabbath. Golyga Sabbata (1) y Sabbath; (2) wythnos., daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i weled y bedd. 2Ac wele, bu daeargryn mawr, canys Angel yr Arglwydd a ddisgynodd o'r Nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd ymaith y maen#28:2 Oddi wrth y drws A C; gad. א B D Brnd., ac a eisteddodd arno. 3A'i ymddangosiad#28:3 Eidea, ffurf, ymddangosiad allanol, nid yn unig y wynebpryd. ef oedd fel mellten, a'i wisg yn wen fel eira. 4A rhag ei ofn ef y crynodd y gwylwyr, ac a aethant megys meirw. 5Eithr yr Angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi, canys mi a wn mai yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd, yr ydych chwi yn ei geisio. 6Nid yw Efe yma, canys cyfododd megys ag y dyweddodd#16:21. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd [yr#28:6 [Yr Arglwydd] A C D L La. [Tr.] Diw.; gad. א B Ti. WH. Arglwydd]. 7Ac ewch ar frys, a dywedwch i'w Ddysgyblion, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw#Salm 16:10; ac wele, y mae Efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch Ef; wele dywedais i chwi. 8A hwy a ymadawsant ar frys oddiwrth y bedd gydag ofn a llawenydd mawr, ac a redasant i fynegu i'w Ddysgyblion. 9Ac#28:9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegu i'w Ddysgyblion A C L Δ; gad. א B D Brnd. wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Henffych well#28:9 Llyth.: llawenychwch.. A hwy a ddaethant ato, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant. 10Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr ymadawont i Galilea, ac yno y'm gwelant I.#26:32
Twyll yr Arch‐offeiriaid.
11A hwy yn myned, wele rhai o'r gwarcheidwaid a ddaethant i'r Ddinas, ac a fynegasant i'r Arch‐offeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12Ac wedi iddynt ymgasglu yn nghyd gyda'r Henuriaid, a chynnal#28:12 Llyth.: a chymmeryd cynghor. cynghor, hwy a roisant arian lawer#28:12 Groeg: ddigon. i'r milwyr, 13gan ddywedyd, Dywedwch, Ei Ddysgyblion Ef a ddaethant o hyd nos ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 14Ac#28:14 Ac os gwrandewir [yr achos] hyn o flaen [epi] y Rhaglaw א A C L Ti. WH. Diw. Ac os gwrandewir [yr achos] hwn gan [hupo] y Rhaglaw B D. Golyga gwrandaw yma, gwrandaw yn gyfreithiol, yn llys barn. os gwrandewir yr achos hwn o flaen y Rhaglaw, ni a'i darbwyllwn#28:14 Neu, ennillwn, boddlonwn. ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddibryder. 15A chan gymmeryd yr arian, hwy a wnaethant fel y dysgwyd hwynt. A thaenwyd y gair hwn yn mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.
Awdurdod, Commissiwn, ac Addewid Crist
[Marc 16:15–18]
16A'r un Dysgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd y pennodasai yr Iesu iddynt. 17A phan welsant Ef, hwy a'i haddolasant; ond rhai a amheuasant. 18A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd,
Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y Nef ac ar y ddaear.
19Ewch [gan hyny]#28:19 [gan hyny] B Δ La. [Tr.] WH. Diw.; gad. א A Ti. Al. a gwnewch ddysgyblion o'r holl genedloedd,
Gan eu bedyddio hwy i#28:19 i enw. Y mae yn enw yn dangos y gwneir hyn drwy awdurdod neu orchymyn y Tad, &c.; ond y mae i enw yn dynodi crediniaeth yn y Tri Pherson Dwyfol yn yr oll ag ydynt i ni, o'n hundeb a'r Drindod, o'n hymddibyniaeth ar Dduw, ac o'n hymostyngiad iddo. Golyga ein derbyniad o hono yn yr oll ag y mae wedi ddadguddio o hono ei hun i ni. enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân,
20Gan ddysgu iddynt gadw#28:20 Llyth.: gwylio ar (fel gwarcheidwaid). pob peth a'r a orchymynais i chwi.
Ac wele, yr wyf FI gyda chwi bob dydd#28:20 Llyth.: yr holl ddyddiau..
Hyd DDIWEDD#28:20 Neu, orpheniad yr oes. Y BYD.
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Matthew 28: CTE
بەرچاوکردن
هاوبەشی بکە
لەبەرگرتنەوە

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.