Luc 18

18
PEN. XVIII.
Crist yn dyscu i ni weddio trwy siampl y weddw orthrymmedig, 13 a’r Publican gostyngedig, 13 yn dderbyn plant atto, 18 yn atteb y llywydd yr hwn a fynne gael nef ond ni fynne ymmadel ai olud 28 yn atteb Petr, 31 yn rhybuddio y deuddec am ei ddioddefaint, 35 ac yn roi ei olwg i vn dall.
1Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, y bydde yn rhaid gweddio bob amser heb ddeffygio,
2Gan ddywedyd, yr oedd rhyw farn-ŵr yn rhyw ddinas, yr hwn nid ofne Dduw, ac ni pharche ddŷn.
3Yr oedd hefyd yn y ddinas honno ryw wraig weddw, yr hon a ddaeth atto ef gan ddywedyd: dial fi ar fyng-wrthwynebwr.
4Ac efe ni’s gwnai dros amser [hîr:] eithr wedi hynny y dywedodd wrtho ei hun: er nad ofnaf Dduw, ac er na pharchaf ddŷn:
5Er hynny, am fôd y weddw hon yn fy mlino i, dialaf hi rhag iddi yn y diwedd ddyfod, a’m blino i.
6A’r Arglwydd a ddywedodd, gwrandewch beth a ddywed y barn-ŵr anghyfiawn.
7Ac oni ddial Duw ei etholedigion sydd yn llefain arno ddydd a nôs, er iddo ymaros yn eu hachos hwynt?
8Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frŷs: ond pan ddêl Mâb y dŷn, a gaiff efe ffydd ar y ddaiar?
9Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon, wrth y rhai oeddynt yn coelio eu bôd eu hunain yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill.#18.9-14 ☞ Yr Efengyl yr xi. Sul wedi y Drindod.
10Dau ŵr a aethant i fynu i’r Deml i weddio: vn yn Pharisæad, a’r llall yn Bublican.
11Y Pharisæad o’i sefyll a weddiodd ynddo ei hun fel hyn: ô Dduw yr wyf yn diolch i ti nad ydwyf fel dynion eraill [y rhai ydynt] drawsion, anghyfiawn, odineb-wŷr: neu fel y Publican hwn.
12Yr ydwyf yn ymprydio ddwy-waith yn yr wythnos, yr ydwyf yn degymmu cymmaint oll a feddaf.
13A’r Publican gan sefyll o hirbell, ni chode ei olwg tu a’r nef, eithr curodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, ô Dduw, bydd drugarog wrthif bechadur.
14Aeth meddaf i chwi, hwn iw dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy nâ’r llall, canys pwy bynnac a’i dderchafo ei hun a ostyngir, a’r nêb a’i gostyngo ei hun, a dderchefir.
15A hwy #Math.19.13. a ddugasant atto ef blant, fel y cyffyrdde efe â hwynt: pan welodd ei ddiscyblion ef hyn, eu ceryddu a wnaethant.
16Ac wedi i’r Iesu eu galw hwynt atto, efe a ddywedodd: gadewch i’r plant ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys i’r cyfryw y perthyn teyrnas Dduw.
17Yn wîr meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn, ni chaiff efe fyned i mewn iddi.
18 # Math.19.16. Mar.10.17. Yna vn o’r llywodraeth-wŷr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, gan wneuthur pa beth yr etifeddafi fywyd tragywyddol?
19A’r Iesu a ddywedodd wrtho, pa ham i’m gelwi yn dda? nid oes nêb yn dda ond vn, [hwnnw yw] Duw.
20Gwyddost y gorchymynnion: #Exod.20.13. na odineba, na ladd: na ladratta: na ddwg gam-destiolaeth: anrhydedda dy dâd a’th fam.
21Ac efe a ddywedodd, hyn oll a gedwais o’m ieuengtid.
22A phan glywodd yr Iesu hyn, efe a ddywedodd wrtho: y mae vn peth etto yn ôl i ti: gwerth hyn oll sydd eiddot, a dodi i’r tlodion, a thydi a gei dryssor yn y nef: a thyret, canlyn fi.
23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24Pan welodd yr Iesu ei fyned ef yn athrist, efe a ddywedodd: mor anhawdd yr aiff y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw?
25Canys haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i’r goludog fyned i deyrnas Dduw.
26Yna y rhai a glybut [hyn] a ddywedasant: pwy gan hynny a all fôd yn gadwedig?
27Ac efe a ddywedodd, y pethau sydd amhossibl gŷd â dynion, sydd bossibl gŷd â Duw.
28 # Math.19.27. Marc.10.28. Yna y dywedodd Petr, wele, ni a adawsom y cwbl oll, ac a’th ganlynasom di.
29Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn wîr meddaf i chwi, nid oes nêb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30Ar ni’s derbyn fwy o lawer y pryd hwn, ac yn y bŷd a ddaw fywyd tragywyddol.
31 # 18.31-43 ☞ Yr Efengyl ar y Sul a elwir Quinquagesant. A’r #Math.20.17. Marc.10.32.Iesu a gymmerth atto y deuddec, ac a ddywedodd wrthynt: wele, ni yn myned i Ierusalem, a chyflawnir pob peth ar sydd yn scrifennedic trwy yr prophwydi am fâb y dŷn.
32Canys efe a roddir i’r cenhedloedd, ac a watworir, ac a ddirmygir, ac a boerir arno.
33Ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, eithr efe a gyfid y trydydd dydd.
34Ac ni ddehallasant hwy ddim o’r pethau hyn, a’r gair hwn oedd guddiedig iddynt, ac ni wybuant y pethau a ddywetpwyd.
35 # Math.20.29. Mar.10.46. Ac fe a ddigwyddodd, ac efe yn nesau at Iericho, i ryw ddyn dall eistedd ger llaw yr ffordd, yn cardotta.
36A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd, pa beth oedd hyn.
37A hwy a ddywedasant iddo mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.
38Yna y llefodd efe gan ddywedyd, Iesu fâb Dafydd, trugarhâ wrthif.
39A’r rhai oeddynt yn myned o’r blaen a’i stwrdiasant ef i dewi, yntef a lefodd fwy-fwy mâb Dafydd trugarhâ wrthif.
40Ar Iesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto, a phan ddaeth yn agos, efe a ofynnodd iddo,
41Gan ddywedyd, pa beth a fynni i mi ei wneuthyd i ti? yntef a ddywedodd, Arglwydd cael fyng-olwg.
42A’r Iesu a ddywedodd wrtho, cymmer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd.
43Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. a’r holl bobl pan welsant [hyn] a roesant foliant i Dduw.

دیاریکراوەکانی ئێستا:

Luc 18: BWMG1588

بەرچاوکردن

هاوبەشی بکە

لەبەرگرتنەوە

None

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە