Psalmau 13
13
Y Psalm. XIII. Englyn Proest Kadwynodl.
1Pa hyd o arglwydh pa ham?
Im anghofiyd a ffryd ffrom.
Ae bythawl drag wydhawl gam?
Pa hyd ior rhagor rhagom
D’wyneb a gudhi dinam?
Ior, dy ras dyro drosom.
2Pa hyd mae hefyd yn hir?
Ymgynghoraf naf nifer
Am kalon waewdon yn wir
Ae hyd y dydb ni bydh ber?
Pa hyd enyd bydh anwir
Vwch ymhenn i nenn sy ner.
3Edrych, gwrandaw draw ior drud
A llugern bydh im llygad:
R[ha]g i’m gysgu methu mud
Yn hvn angav brav a brad.
4Rag im gelyn gwagdhyn goel
Dhwedyd kefais fantais fael:
Llawen gelyn melyn moel
O llithraf ir gwaethaf gael.
5Ith drugaredh fowredh faeth,
Ni ymdhiriaid enaid anoeth:
Am holl galon ffrwythlon, ffraeth
Fydh lawen dha awen dhoeth
Wyd ior oth iechydwriaeth.
O kaf, mae ’n orau kyfoeth.
Myfi im Duw howdhuw, hynt
A ganaf a gogoniant
A wnaeth ym helaeth helynt
A gwir dhawn ag vrdhuniant.
বর্তমানে নির্বাচিত:
Psalmau 13: SC1595
হাইলাইট
শেয়ার
কপি

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.