YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 72

72
Y Psalm. LXXII. Cywydd Deuair Hirion.
1Dysg dy farn, o dasg dy fawl,
Duw, ir brenhindewr, breinniawl;
Ag yw fab, ŵr gwiw, a fydh
Gyfiawnder, dy gof undydh.
2E farn yno, o’i fron, ennyd,
Ddynion yn gyfion i gyd;
Y cyfoethawg, kof ieithoedh,
Fal tylodion union oedh.
3Mynydh a dhwg ymannos
Dangnefedh yn niwedh nos;
I ’r bryniau oll a ’r bronnydh,
Cyfiawnder dyner bob dydh.
4E farna dlawd, brawd ir brig
Madws, sydh orthrymedig;
A rhydh ei iechyd y rhawg
Y ’nghu enaid anghenawg:
Ef a sathr ac a fathra
Gablwyr, sennwyr, pleidwyr pla.
5Tra fo haul, tra fo heli,
O fewn ein tir ofnant di;
Tra fo llewych tirf lleuad,
Byth bythoedh cenhedloedh cad.
6Disgyni ail dwys gain wedh
Yr odwlaw ar yr adledh;
Fal cafod, fal y kofiych,
Y dhaear glaiar a’i gwlych.
7Y cyfion, hoyw union hir,
O b’ai orchest, a berchir;
Tra fo lleuad, rhif llawen,
Tangnefedh fydh rhydh ir hen.
8Iôr hael byth, rheoli bydh,
Gwelwch, o ’r môr bwygilydh,
Hyd eithafion daith nefyd
Y dŵr balch a daear byd.
9Dïeithron, gwylltion, nid gau,
A’u gwyl yno ar eu gliniau;
A’i elynion, o soniwch,
Sy ’n casglu a llyfu llwch.
10Llawer anrheg deg dygir
Brenhin Tharsys, ynys ir;
Brenhin Sheba, Saba, son,
Yn rhwydhwych yn eu rhodhion.
11Ger ei fron pob gwir frenhin
Gostyngant, rhedant mewn rhin;
Uwch holl genhedloedh a chwant,
Gysson waith, a’i gwas ’naethant.
12Têg ydoedh, yntau a gadwai
Dylodion dhynion lle ’dh ai;
E gymmorth, rhag ei gammu,
Orthrymmedig o ’r dig dû.
13Difudhiawg, anghenawg, hedh
Draw a gair o’i drugaredh;
Ac o arw‐sigl berygl byd,
Accw, efo a’u cyfyd.
14Tynni eu bywyd hynod
O dwyll a thrais, dull i’th rod;
Amryw wyrthiau mawr‐werthiawg
Eu gwaed i’th ŵydh rhwydh y rhawg.
15Caiff yma yw oes, koffa mawl,
Aur o Saba wrsibiawl:
Pawb a wydhiad, pawb eidho,
A’i wedhi a’i fawl idhaw fo.
16Ystodiau fyth yw ’stad fydh —
Ydau ir bryniau, bronydh:
Ffrwyth daear lawengar, lon,
Ail i bennod Libanon;
A ’r ŷd cyn amled ar wellt,
I’w dorri a daear‐wellt.
17I enw a gair, enwog oedh
Hael Naf, tra fo haul nefoedh:
Pob cenedl a ymchwedlant, —
I fawl yn nefawl a wnant.
18Bendith Dduw i Hoywdhuw hael,
A dewisrodh Duw Israel;
Fo wna ’n unig, fwyn anian,
Firaglau gwych, fawrgoel gan.
19Yn dhichwith bendith bob oes
I’w ogoniant dheugeinoes;
Llanwa ’r dhaear, Mwyngar mau:
Amen — Amen — gwed minnau.
20(Terfynant gweddïau Dafydd fab Isai.)

Currently Selected:

Psalmau 72: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in