YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 68

68
Y Psalm. LXVIII. Englyn Unodl Union.
1Coded, Arglwydh, rwydh rodhion, — naws cariad,
Gwasgarer ei alon;
Olynol ei elynion,
O wedh ffals, o’i ŵydh y ffon’.
2Fal mŵg ir gyrrir ef a ’r gwyn’, — neu gŵyr
A dawdh ger pentewyn;
Drwy udo fe dry adyn;
I ŵydh Duw ni wedhai ’ dyn.
3Gwyr cyfion union anant, — o wirglod,
I ’r Arglwydh glodhestant;
A ’r llawenydh sydh i sant
Yn iach y llawenychant.
4Cenwch ’ Dduw, cenwch accenion — cwyraidh,
C’weiriwch ei ffordh dirion;
I’w ŵydh bydh llawenydh llon
5I’w enw, yr Unduw union.
Duw draw sy ’n tariaw tirion — yw bebyll
Gyda’i holl bobl ffydhlon;
6Dïal dros wragedh gwedhwon,
Ef Dad ir amdhifaid, Iôn.
Rhydh blant a llwydhiant a llaw — o ’r carchar,
Cyrchwyd pawb yn hylaw:
Duw a dhwg y rhai drwg draw,
Dwg ’ i le drwg i drigaw.
7Heb ffrost pan aethost weithion, — Duw oesawg,
I d’wyso dy dhynion:
Pan rodiaist, ti a’u t’wysaist, Iôn,
I ’r mynydh, gelltydh gwylltion.
8Daear groyw, anwar, a grynodh, — arw-nwyf,
A ’r nef a dhiferodh;
Seinai o’i flaen a synodh;
Duw Israel, Iôr hael, arhôdh.
9I’th ffraeth ’tifedhiaeth da fodhion, — gloyw‐waith,
Y gwlawiaist yn ffrwythlon;
Wyt drugarog d’wysog, dôn
O ’r gorau i wyr gwirion.
10A’th luoedh gadoedh gwedi, — Duw puredh,
Peraist o’th dhaioni;
Y rhai ’n a borthaist, fy Rhi,
I’w cul adwyth a’u c’ledi.
11Duw Tad yn siarad ni sorrais, — yno
Anwyl pob tirion‐llais;
Mawr ydoedh lluoedh a llais,
I foliant a dhyfalais.
12Brenhinoedh, cadoedh codai, — hoff wasarn,
A ffoisant bob mintai;
Rhai nid aeth, er hyn, o dai,
Os b’ai olud, a ’sbeiliai.
13Y rhai sydh bob dydh wrth dan — y borau,
Ac yn berwir crochan;
Eurir eu hesgyll arian
Fal c’lommenod gloywnod, glan.
14O’i fodh gwasgarodh ysgyrion, — Hoywnaf,
Frenhinoedh yn Seion;
Cannaid teg lle cannwyd hon
Y sy eilmodh i Salmon.
15Bron Seion dirion, da aros, — mwynaidh
Yw mynydh Duw ’n agos;
Fal un Basan ymannos, —
Mynydh glennydh rhydh, a rhos.
16Pa falchder hyder yw hyn — a nodwch?
Ai neidio mae pob‐bryn?
Diau fyth ein Duw a fyn
Dario yma drwy emyn.
17Mil fyrdhiwn, da gwn, digwyno, — ’ngolwg,
O angylion yw lusgo;
I Seinai Duw sy yno,
Sant Iôr fyth, yw seintwar fo.
18Deliaist, carcheraist, garw chwarau, — rhodhaist
A mynnaist i minnau;
I anufudhion fodhau,
Yn llon hael i ’n llawenhau.
19Ffraeth iechydwriaeth nid diriaid, — eurglod,
I ’r Arglwydh bendigaid;
Can’s beunydh y rhydh i’m rhaid
A f’ai anwyl i f’enaid.
20Ein Duw, Cywirdhuw, lle cerdho, — uchod,
Iechyd pawb a’i ceisio:
Y ffordh rhag angau i ffö,
Y Dofydh, ydyw efo.
21Duw ’n hawdh y bylchawdh wyr beilchion — beunydh,
Tyr bennau’i elynion;
Fe eillia Duw felly don
Eu corynau, beilch crynion.
22O Fasan a ’r tan tynnir — y gwirion,
Geiriau Duw a gredir;
O dhwfn y moroedh, ofnir,
Medh Naf, mi a’u tynnaf ir tir.
23Gwlychu ’n traed a gwaed ergydio — cas‐dhyn,
Y gelyn i gilio;
Cŵn yn drwch, ni’s cwynwn dro,
Sy ’n llyfu’u gwaed sy ’n llifo.
24Camrau Duw golau gwelant, — mawr anial,
Fy Mrenhin, Anwylsant;
Duw fy eidho, da fedhiant,
Yn war yn ei seintwar, Sant.
25Llawer timbrel, ffel yw ffydh — y merched
Am orchest mewn awydh;
Ol a blaen mawl heb lonydh
Cantorion, cerdhorion dhydh.
26Molwch Dduw, molwch a mael, — pob terfyn,
A phob tyrfa dhiwael:
Hwylusran holl hil Israel
Molwch f’Arglwydh hylwydh, hael.
27Beniamyn dyfyn difiawg — a’i dylwyth
Deled, a phob t’wysawg;
Siwda, Nephtal sy oediawg,
Sabulyn, er hyn, y rhawg.
28Bid nerthawl dy hawl holi, — gwiw urdhas,
A ’r Gwirdhuw ’n ei beri;
Yn gadarn, Duw, gwna wedi,
Heb fost, a wnaethost i ni.
29Offrymmant, rhodhant a rhaith, — wir solas,
Y ’nghaersalem berffaith,
Y brenhinoedh, barn henwaith,
A rhodhion oll, rhwydh iawn waith.
30Gwyr beilchion geirwon ar gwarel, — taerweilch,
Fal y teirw mewn cornel;
Gwasgar bawb, os cair y bêl,
A gar rhyfyg a rhyfel.
31Uchelwyr, iawnwyr anian, — goludawg,
A gwladwyr Aipht lydan;
Ethiopia a leda ’n lan
I dwylaw i ’n Duw hoywlan.
32Teyrnasoedh, tiroedh torrant — wirionder
I ’r Unduw ogoniant;
Cenwch fawl — cenwch foliant —
Croyw wawd a thafawd a thant.
33Yn wir arweinir Duw ar weini — nwyf
I ’r nefoedh yn wisgi;
A llais nerth ni’s llyswn ni
Y Gwiwdhuw, pan fo ’n gweidhi.
34Yn Israel nid gwael yn gwau — ir bobloedh
I nerthoedh yn wyrthiau;
A nerth yn brydferth Duw brau,
A mawl hyd y cymylau.
35Wyd nerthawl dy hawl, deholwyd — dynion,
Dy enw a sancteidhiwyd;
I’th seintwar waith, Sant Iôr wyd,
Duw ofnadwy — dwfn ydwyd!

Currently Selected:

Psalmau 68: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in