Psalmau 66
66
Y Psalm. LXVI. Cywydd Deuair Hirion.
1Clodforwch, molwch Dduw mau,
Holl daear, a llu deau.
2Chwi a genwch ogoniant,
O iawn swydh, yw gu‐enw Sant:
Purwch ei fawl (parch a fedh,)
A rhadair ac anrhydedh.
3D’wedaf i’th waith, maith im’ wyd,
Duw ofnadwy — dwfn ydwyd!
Mae ’r gelyn mawr ei gelwydh
Ag ofn dy nerth, serth yw ’r swydh.
4Diorwag wyr daearawl
Canant a fedrant o fawl.
5Dowch i edrych, gwych yw gwaith
Duw a’i enw, Dewinwaith:
Uthrawl, perffaith, yw gwaith Iôn,
A dawnus i blant dynion.
6Y môr fu (Duw mawr yw fo!)
Yn dir sych a droes ucho:
Rhodiason’ ’r hyd afonydh
Yn llawn rhwysg — yn llawen — rhydh!
7Rheol a nerth rhy‐lan oedh
Yn odli y gwyl genhedloedh;
A ’r rhai a wrthyd Iôr hir,
O chofiwch, ni dhyrchefir.
8Moliennwch Dduw, mawl enwawg,
I weision rhwydhion y rhawg,
A llais eglur, cyssur cant,
Yn fwy eilwaith ei foliant.
9Fe roes fywyd, byd heb au,
Yn wiwdeg i ’n heneidiau;
Ni ad i ’n traed wedi ’n tro,
I le athrist, i lithro.
10Ein Duw ydwyd, da odiaeth,
Holaist a phrofaist ni ’n ffraeth,
Orig, fal profi arian,
Ffroen nos dû, ir ffwrnais dau.
11I rwydau enwir wedi
Yn awr y tywysaist ni;
A maglau rhwym, gwael yw ’r hynt,
I ’n haelodau a ledynt.
12I bawb dy gennad y bu,
A fagwyd, i ’n gorchfygu:
Yn y dŵr, hynod oeri,
A than oll, yr aethon ni:
Yno i ’n tynnaist, Iôn tyner,
I ’n gwỳnfyd, a ’n byd yn bêr.
13I’th dŷ ’r af, waith diryfedh,
Ag aberthau, gorau gwedh;
Talaf it’, elwyf attad,
Fadhewidion rhwydhion, rhad,
14A draethais, gwelais nid gau,
Imi ’n gynnil mewn genau, —
A fu son i’m gwefus i,
I’m cul adwyth a’m c’ledi.
15Offrymaf wêr meheryn
Yn aberth, hoywnerth yw hyn;
Ag eidionau, gwawd anian,
O gyfryw math, a geifr man.
16Dowch i wrando dychryndawd
A draethaf i’m Naf yn wawd
Rhwydh, am a wnaeth ef i’m rhaid;
Anwyl y bu i’m henaid.
17Gelwais, fy Naf, a’m tafawd, —
Duw mau, a’m genau a gwawd:
18Union galon heb gilwg,
Fodhawl draw, heb fedhwl drwg;
O iawn bwyth hyn oni b’ai,
Duw isod ni’m gwrandawsai.
19Diau yn hael Dewin hawdh,
Iôn diwael, a’m gwrandawawdh;
A’i glust yn rhoi gloyw osteg
I’m gwaedh dost a’m gwedhi deg.
20Clodforaf, molaf y mi
Wiwdhuw, a wrendy ’ngwedhi;
I drugaredh, drwy garu,
Da caf gan fy Unduw cu.
Currently Selected:
Psalmau 66: SC1595
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.