Psalmau 64
64
Y Psalm. LXIV. Ofer‐fesur, a elwir ‘Englyn Milwr.’
1Gwn rhag anfwyn hir gŵyno
Ar ’ gelyn, oer dremyn dro;
Gwir Unduw, fy llef gwrando.
2Rhag cyngor anysgorol,
Cadw fi ’n nghudh, ’rwy ’n brudh heb r’ol,
Rhag cynhenwr cynhwynol.
3Hogant, fal cledh o’u heigion,
Eu tafodau, saethau son,
A siarad geiriau surion.
4Cyflym a ffraeth y saethant,
Oerboen sur, yn erbyn sant, —
Yn y dyfnedh nid ofnant.
5Brwydr a maglau bwriadant,
Drwg‐weithredion bloesgion blant;
I’w medhwl, Pwy wyl? medhant.
6Gweithiant, chwiliant a chilwg
Anwiredh drwy wagedh drwg,
Dichellion hwyrion hir‐wg.
7Ond Duw y ffraeth a saetha,
Yn eu plith y rhan y pla
Disymmwth, — Duw sy yma.
8Eu tafod, arfod wirfoll,
Dychrynant, hwy welant oll,
Ofergerdh, eu cyfyrgoll.
9Gŵyr a wyl, heb gweryloedh,
Deall ei air, eu dull oedh, —
A thradoeth ei weithredoedh.
10Cyfion fydh lawen, kofir,
Y ’ngobaith Duw, Gwiwdhuw, gwir, —
Yn adhas gogonedhir.
Currently Selected:
Psalmau 64: SC1595
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.