YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 58

58
Y Psalm. LVIII. Gwawdodyn Byr.
1Os kyfiawn, os iawn ydyw’ch senedh,
Ai da ydych orig? d’wedwch wiredh:
A fernir y gwir heb garedh — weithion
Y’mysg plant dynion, union annedh?
2Yn drwch y gyrrwch, heb drugaredh,
Daear yn aruthr drwy anwiredh;
Treisiaw a’ch dwylaw, trawsedh — a gerwch,
A hynny a bwyswch ar bennau bysedh.
3Dïeithron, dynion heb wirionedh,
Er pan eu ganed, galed guledh;
Can’s aethont ffordh front o fryntedh, — a’u dug,
I dh’wedyd gau ffug, sarrug suredh.
4Mae idhynt yw dhwyn wenwyn unwedh
Sarph las, ail wynias ŷnt o lawnedh;
Fal asbys dhyrys fydharedh — dhistaw,
Ni wrendy swynaw soniaw synnedh.
5Ni wrendy ar lais malais maledh
Y swynwr, fwriwr pob cyfaredh;
A’i fwynair fawrair oferedh — gandho,
A ŵyr gonsurio ar gau sorredh.
6Duw, Duw, dinystria, diwyna’u dannedh,
Drwy dynnu, ’sgythru, eu hysgythredh;
Ail llewod, hynod honnedh, — yw ’r rhei ’ni,
Sydh i ’n herbyn ni, Geli guledh.
7Ail llif y cornaint, dhifraint dhyfredh,
Y llithrant heibiaw, gwynaw gwanwedh:
Eu saethau, geiriau garwedh — a yrrant,
Yno a dorrant yn eu dewredh.
8Fal y tawdh malwen gornwen, garnedh,
Felly y llithrant gant ar gyntedh;
Fal yr erthul, mul a moeledh — didraul,
Ni welodh yr haul araul, eurwedh.
9Cyn tyfo eu blagur, eglur ogledh,
Yn bigog, dreiniog, a dirinwedh;
I’w llid fe dhylid dhïaledh — arnynt,
A dwg o’u helynt ac o’u haeledh.
10Y cyfion a gwên lawen loywedh,
Wrth weled dïal, cymmal camwedh:
Gylch ei draed a gwaed gydwedh — lle ’r elai
Y dyn a ŵyrai hyd anwiredh.
11Pob enaid dywaid yn y diwedh,
Fod tal ir union, gyfion gyfedh;
A bod yn barod buredh — ar y bar
Dduw digymmar mewn daear duedh.

Currently Selected:

Psalmau 58: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in