Psalmau 55
55
Y Psalm. LV. Englyn Unodl Grwcca.
1Gwir Unduw fyth, gwrando fi,
Gwaedhais arnad a’m gwedhi;
Nag ymgudh yn brudh, bêr rodhi, — ymannos
Dymunaf, Duw Geli.
2A gwrando bu waetio ’n bêr
A wnai arnaf, Iôn, Eurner:
Duw mwynaf, cwynaf, caner — tyst-eiriau
Mewn tosturi ’sgeler.
3Gelynion hyn a soniynt,
Gorthrechwyr im’, anwyr ŷnt;
Anwiredh rhyfedh yw ’r hynt, — a digiaw,
Degoes im’, gorthrechynt.
4Fy nghalon, cyfion yw ’r kof,
Gron anwyl, a grŷn ynof:
Ofn y cau angau yngof — o serthwch
Oll a syrthiodh drosof.
5Daeth imi oeri orhoen,
Dychrynu, crynu i’m croen;
Arswyd a bennwyd o boen — i’m cudhio,
A’m codhed yw fy hoen.
6D’wedais, Pwy rydh rywdhydh, Rên,
Coel imi, esgyll c’lommen?
I hedeg, gwaneg a gwên — lawn adhysg,
I lonydhwch llawen.
7Yno rhedwn, gwn, ar g’oedh,
Diball bid, i bell bydoedh;
Yno, gwn, tariwn mewn tiroedh — diffaith,
A diphwys mynydhoedh.
8Dihangwn, rhedwn y rhawg,
Yn fuan ac yn fywiawg;
Rhag oer hynt y gwynt garw, gwyntawg, — hoenus,
A hinon dymhestlawg.
9Llwngc hwynt, Arglwydh breisgrwydh, brau;
Hollta fudr hyll dafodau;
Ymryson creulon, cwerylau, — galar,
Gwelais yw dinasau.
10Gwiliaw a rhodiaw, rhadair,
Beunydh y caerydh eu cair;
I ganol y dref, drwg anair, — yn awr,
Ag anwiredh disglair.
11Pob diffeithwch, serthwch son,
Oer araith, sy yndhir awrhon;
Bydh ar heolydh i hon — yn astrus
Ystryw a dichellion.
12Gelyn dibwyll pe i’m twyllai,
Hanner‐cwyn yn fwyn a f’ai;
Gwn draw ymgudhiaw gwedhai — a galon,
Rhag gelyn a’m ceisiai:
13Onid im’ ŵr hynod maith,
Cyd‐ammod, a’m cydymmaith;
Fy nghynghorwr, gwr ag araith — gywraint,
A garwn i yn berffaith:
14A melus hwylus helynt,
Ragor o gydgyngor gynt,
Yn gyfeillion llon llawen‐hynt — hawdh iawn,
Yn nhŷ Dduw a rwydhynt.
15Angau, ymylau milain,
A gladh yn fyw rhyw y rhai ’n;
Ag amled gweled oer gelain — ir dref,
Arwa’ draig dholefain.
16Minnau alwaf, manylwaith,
Ar fy Ngwirdhuw, Mawrdhuw, maith,
Yr Arglwydh hylwydh a haelwaith, — Ciwdawd,
Ef a’m ceidw yn berffaith.
17Canol dydh, celfydh coelfain,
Boreudhydh, cydechwydh cain,
Gwedhiaf, soniaf, fy sain; — a gwrendy
Gwir Unduw fy llefain.
18F’Anwyl a brynawdh f’enaid,
Mewn tangnefedh ryfedh raid,
Rhag rhyfel gwyr del, deiliaid, — a mawrboen,
I’m herbyn gorthrech‐blaid.
19O’th gadair, dawnair dinam,
Gwrandewi, cospi y cam;
Eu buchedh hoenwedh, paham, — y neillawr,
Na wellant rhag dryglam?
20Duw nid ofnant nwyfiant nôd,
Trwy ymwan torri ammod;
Gorthrechu, sennu, lais hynod — affaith,
Sawl a’i hoffai ’n ormod.
21Mwynach, llyfu, fal ymenin,
Yw geiriau ei enau in’;
Ond rhyfel lle dêl sy ’n dilin, — gwaelwas,
I’w galon ysgymmin:
22I barablau, geiriau gwych,
A modh olew medhalwych;
I’w fedhwl, ŵr dwl, deliych, — cul ofal,
Mae clwyfaw yn fynych.
23Difai ar Dduw rhoi d’ofal,
Cai rwydh‐deb diweirdeb dal;
Am na’s godhef ef hir ofal, — kofiaw,
I ŵr cyfion dyfal.
Gwyr creulon, eirchion erchyll,
Dydi, Duw, bwri hwy i byll;
Byr‐oesawg, twyllawg o fewn tyll — ydynt,
Attad do’f i sefyll.
Currently Selected:
Psalmau 55: SC1595
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.