YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 40

40
Y Psalm. XL. Cywydd Deuair Hirion.
1Godhefgar wyf yn aros
Yn nydh, fy Arglwydh, a nos;
Nesodh, gwrandaw odh yn deg
Fy llefain o fwll ofeg.
2A dyg fi i deg o fan,
Bell well‐well, o bwll allan, —
O glai a thom, golaith hawdh,
Ar y graig, Iôr gorugawdh;
Rheolawdh a dysgawdh, Dad
Urdhedig, fy ngherdhediad.
3I’m genau rhydh, newydh nôd,
I Dduw gan dhiwag, hynod:
Gwyl llawer o nifer Naf
Yn gefnog, ac a’i hofnaf;
Ymdhiriedant, rhediant rhwydh,
Iôr eurglod, yn yr Arglwydh.
4Gwỳnfyd siwr ir gwr a gaid,
Modh a ŵyr, idho ’n ymdhiriaid;
Ni rodhai bris, dibris dôn,
Oera’ bwlch, ar wyr beilchion;
Na ’r sawl a dry fry yn frau,
Gwael adhysg, at gelwydhau.
5Aml Duw, f’Arglwydh, gloywrwydh glod,
Honnaist firaglwaith hynod;
Nid oes a rif eu nifer,
Ail pwngc dy fedhyliau pêr;
Têg ytoedh tuag atton,
Traethaf a d’wedaf, Duw Iôn;
Amlach ydynt, rhwydhynt rif,
Accw afrwydh yw cyfrif.
6Offrwm ac aberth perthi,
Mwyn ’stad, ni dhymunaist ti;
A’m clustiau, mae ’n glau mwyn glod,
Yn bêr, gwnaethost yn barod:
Nag offrwm, degwm, oedh dau,
Wych odiaeth, dros bechodau.
7D’wedais, mi a glywais i’m glod
Difai, Wele fi ’n dyfod:
Ysgrifenwyd, nodwyd, Naf
Dawnus, i’th lyfr am danaf.
8Mynnais wneuthur, freisgbur frys,
F’enaid oll, Fy Nuw, d’w’llys:
Dy gyfraith sydh, bydh, a bu,
I’m calon, heb dhim celu.
9Traetha’ ir dyrfa fawr, deg,
I gyfiawnder, gof wendeg;
Ni chefais, Nêr, Mawrner mau,
Anghof îs fy ngwefusau.
10Ni chelais dan ais, Duw Nêr,
Gof undydh, dy gyfiawnder;
Traethais dy wir, ceisir cêl,
A’th iechyd, o waith uchel:
Ni chudhiais, d’wedais mai da,
I ’r dorf ac ir fawr dyrfa,
Dy drugaredh, ryfedh Ri,
A’th wir, a ’r gair, ni thorri
11Duw, na thyn i ’n herbyn, Nêr,
Drugaredh, dawnedh dyner:
Dy wir a’th drugarawg dôn
A’m ceidw rhag dim hoccedion.
12Trallawd, Ri, nifeiri fu
I’m pwysaw a’m cwmpasa:
Fy mhechod, anwybod, Naf,
Oernych, a graffodh arnaf;
Ni allaf yr haf yn rhydh
Unwaith edrych i fynydh;
Amlach na ’r gwallt, rudhallt, Ri,
Ar fy mhen, er fy mhoeni:
Am hyn fy nghalon drom, hawdh,
O’i byw ollawl, a ballawdh.
13Gwared, Arglwydh purlwydh, pêr,
Faith bu les, fi o’th bleser:
Brysia i’m hymborth, cymmorth cain,
O Arglwydh, ydwyt eurglain.
14Cywilydh accw a welwn,
Gyda gwarth, gwedi, y gwn,
I ’r sawl a gais, trais nid rhaid,
Lwydh fynnu, ladh fy enaid;
Ysgilier hwynt îs celu,
Chwerwedh dôn, a cherydh dû,
A fynnent gael, ofnent gêd,
Mewn awydh, imi niwed.
15Bid dinystriad, rwygiad rym,
Cyflog cywilydh cyflym,
I sawl a dhywed yn siwr,
Wele, wrthyf, mae ’n waelwr.
16Sawl a’th gais o fantais fydh,
Llon hoywnerth, llawen heinydh:
Sawl yn war a gar i gyd,
O Duw uchel, dy iechyd,
A dhywaid ar amnaid rwydh,
Wirglod, Boed mawl ir Arglwydh.
17Ys tylawd oferwawd fi,
Ag anghenawg y ’nghyni;
Modhawl naws, y medhwl Naf,
Ammod iawnwych, am danaf:
Wyd fy nghymmorth, ymborth, Wr,
Gwir ydwyt, a’m Gwaredwr;
Fy Naf, lle ’r ydwyf mewn ing,
Un Duw Iôr, na wna daring.

Currently Selected:

Psalmau 40: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in