YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 25

25
Y Psalm. XXV. Cywydd Deuair Hirion.
1Attad, Dduw, Ceidwad, codaf
Fy nghalon yn union, Naf.
2Ymdhiriedaf ’ Naf nefoedh;
Coelio i Dduw, nid c’wilydh oedh:
Fy ngelynion sy ’n llonni,
A chas wedh, o’m hachos i.
3Cywilydh ni bydh lle bo,
Iaith gyson, gwr a’th geisio:
Bid cywilydh, dreisiydh drwg,
I’m herlidwyr, mawr ledwg.
4Dysg, dysg air hydhysg, Iôr rhwydh,
Dy lwybrau diwael ebrwydh.
5Dysg fi, yna t’wysa at hedh,
Doeth ranniad, a’th wirionedh;
Gwiliais i dydi bob dydh,
Gwaredydh a’m gwir Wawdydh.
6Coffa, Duw Nêr, syber son,
Radhau dy drugaredhion;
A’th dhaioni maith ennyd
Er dechrau a borau ’r byd.
7Ac na fedhwl, wyf dhwl dhyn,
Bechodau ebwch adyn;
Ond o’th radlon dhaioni
Y caffwyf fael, koffa fi.
8Duw Iôr sydh fugail da iawn,
Dwys i dhyn, Duw sydh uniawn;
Dysg ei lwybrau, rhadau rhod,
Os b’ai ŵr ar dhisberod.
9Dysg ir truan egwan ’aeth
Degwch ei farnedigaeth;
Dysg ir adyn, dwys gredir,
Hoff arwydh hwnt, ei ffordh hir.
10I ffyrdh ydoedh hoff urdhas
Drugaredh, gwirionedh, gras,
I’ gadwo ’n wiw a ffriw ffraeth,
Dwys deilwng, ei dystiolaeth.
11Modhus er dy enw madhau
Anwiredh, mawr wagedh, mau.
12Pa ŵr o serch, pur ei swydh
Eurglod, a ofna ’r Arglwydh?
E dhysg idho ffyrdh heb dhig,
Daith loywder detholedig.
13Daioni Duw yw enaid,
Yn medhiant ei blant a’i blaid.
14Dengys dhirgelion c’lonnawg
I ’r rhai ’n, a’i ammod, y rhawg.
15Edrychaf, gwelaf i’m gŵydh,
Ddioferglod, Dduw f’Arglwydh:
Hwn a dynnodh, mwynrodh mau,
Y ’nrhaed allan o ’r rhwydau.
16Edrych arnaf, gwychaf gwedh,
Athro gwyr, a thrugaredh;
Wyf unig, ni chaf einioes,
Druan yn gridhfan yn groes.
17Tyn fi, Arglwydh rhwydh, a rhed
O’th awydh, o’m caethiwed.
18Gwyl f’angen a’m trueni,
A’m pechodau madhau i mi.
19Fy ngelynion pan soniynt,
Aml, O gwyl mor amlwg ŷnt!
Yn llidiog, oriog eiriau,
Accw sy hawdh i’m cashau.
20Cadw fy enaid, rhaid, yn rhydh;
Tan goel im’, tyn o gywilydh:
Attat rhedaf, gweithiaf gêd,
Fy Nuw adhas, fy nodhed.
21Puredh a gwiredh gwarant
Pêr sydh i’m gwared, Pôr Sant;
Can’s arnad, gwastad i’th gaf,
O drachwant yr edrychaf.
22Tyn Israel, wyt hael y ti,
O gul adwyth galedi.

Currently Selected:

Psalmau 25: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in