YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 22

22
Y Psalm. XXII. Cywydd Deuair Hirion.
1Paham, fy Nuw, Gloywdhuw glod,
I’m gwarth yr wyt i’m gwrthod
Ac wyd, nid gwell, mor bell byd
O fwy ochain fy iechyd?
Ac odhiwrth gwaedh o erthwch,
Orhoff lais, fy ngeiriau fflwch?
2Gelwais ’ dydh, ni’m coeliaist i,
Yn d’awydh ni’m gwrandewi;
A ’r nos drwch, oernaws o dro,
Wir Unduw, heb fy ngwrando.
3Gwir foliant Israel haelwych,
Santaidh wyd dros hynt oedh wych.
4Rhwydh iawn byth y rhodhai ’n bêr
Ein tadau ynot hyder;
Yn eu hymdhiriaid, amnaid oedh,
Gwaredaist hwy, gwir ydoedh.
5Galwasant, d’wedsant yn dost,
Rhwydhgain waith, ’nrhydh eu gwnaethost;
Ymdhiredynt ar hynt rhwydh,
Gwir ydyw, ni bu gw ’radwydh.
6Nid gwr dewr, nid gorau dyn,
Nid pur wyf, onid pryfyn;
C’wilydh dynion feilchion fil,
A dirmyg i bedeirmil.
7Pawb a’m gwyl, pe b’ai mwy gant
Eto’wyr, a’m gwatwarant;
A siglo’u pen, foelcen fu,
Yn gymmar, a mingammu:
8Ymdhiriedai, leilai lwydh,
O wirglaim, yn yr Arglwydh;
Gwareded, cadwed ŵr cu
Gwirion, gan idho’i garu.
9Ond ti a’m tynni drwy ’r tan,
Gwiwraith oll, o ’r groth allan;
A rho’st obaith maith i mi
Y’mronnau y mam‐rïeni.
10Cyn fy ngeni, henwi had,
Wiwner, i’m bwriwyd arnad;
Ydwyd fy Nuw, Croywdhuw cred,
Gwiwnerth, er pan i’m ganed.
11Y’mhell na dhos un nos, Nêr,
Abl o wendid; can’s blinder
Sydh agos im’, swydh gas ŵr,
Arw odiaeth, heb waredwr.
12Teirw ifaingc yn aingc a wnant,
Camp ysig, a’m cwmpasant;
Teirw Basan, hwylian helynt,
O fy amgylch ogylch ŷnt.
13Safn agored uwch gwledydh,
Fal llew rheibus, dhirus dhydh.
14Ydwyf fal dwfr, berwdhwfr bid,
O de’lltwch, a dywelltid;
A’m holl esgyrn, migyrn mwyd,
Eilwaith a dhigymmalwyd:
Mal cwyr o ’r mêl a’i c’weiriawdh
Mae ’nghalon i’m dwyfron dawdh.
15Sychwyd fy nerth îs ochain
Fal darn pridhlestr menestr main;
Glŷn fy nhafawd, wydnwawd wau,
I’m ochain, wrth fy mochau;
Dygaist fi, bwriaist i ball,
Hyd dwst angau, dyst anghall.
16Yn arw y cŵn ar eu cais
O’m hamgylch sydh i’m hymgais;
Tyllasont, drylliasont draw
Dileth fy nhraed a’m dwylaw.
17Mi wn rif a chyfrif, chwyrn
A llesgedh, fy holl esgyrn;
Hylldremio, kofio eu caf,
Ac edrych oernych arnaf.
18A rhannu fry, rhy wan frad,
Ofni a ellynt, fy nillad;
Am fy nghadach masnachu,
A chyttysau heb au, bu.
19Na fydh y’mhell gymmell gain,
Arglwydh, odhiwrthyf, eurglain;
Dy gymmorth, a’m hymborth mawl,
Dyro yn wyrth, Duw lôr nerthawl.
20Gwared f’enaid rhaid, Iôr hyf,
Cul eidhil, rhag y cledhyf;
A’m mwyn enaid, mae ’n unig,
Rhag nerth a lwn cŵn y cig.
21Cadw o enau cadwynawg,
Oll er hyn, y llew y rhawg;
Atteb fi, cadw difradw fryd
Rhag cyrn yr uncyrn encyd.
22Traetha’ d’enw at raith dynion
I’m pybyr frodyr un fron;
Y ’nghanol, fy nghu einioes,
Y dyrfa ei mola i’m oes.
23Molianned ef, mael unawr,
A ofno Duw funud awr:
O gwbl oll, Iago a’i blant,
A rhagor, a’i mawrygant;
A phlant Israel, gafael gyd,
Ofnwch ef yn wych hefyd.
24Ni dhirmygodh, symlfodh sôn,
O deil adwyth dylodion;
Ni ymgudhiodh Iôn a’m Gwiwdhuw
Pan alwodh, gwrandawodh Duw.
25Dy foliant hyd fy elawr
Fydh ir gynnulleidfa fawr:
A gwiriaf fy llwf geirwir
Y ’ngŵydh a’i hofno, fy ngwir.
26Bwytty tylawd, heb wawd by d,
A llenwir a llawenydh;
A geisio Duw, fal gwas da,
Mael ennyd, a’i molianna;
A’i galon, fal gwehelyth,
A fydh hedhyw byw, a byth.
27Ag eithafion gwaith hefyd
Caiff wir barch, a’i koffa ir byd;
A thorfoedh genhedloedh gant,
Trawsion, at f’Arglwydh troisant:
28Can’s yr Arglwydh rwydh o ras,
Bôr dewrnerth, biau ’r deyrnas;
Yn rheoli, ein Iôr hylaw,
Y cenhedloedh dorfoedh daw.
29Gwyr breision purion porant,
Yn ol i adholi a wnant;
A ’r rhai ufydh, rhydh, mae ’n rhaid,
Yno, ni all help yw henaid.
30Eu had hwy yn dreftadawl
A’i gwas ’naetha, mwya’ mawl;
Cenhedlaeth Duw, hoywfaeth dir,
Cof ryfyg, eu cyfrifir.
31Traether ei gyfiawnder fo,
E dhylair sawl a dhelo;
Can’s fe’u gwnaeth, di gaeth, da gêd,
Ganwaith ir sawl ni’s ganed.

Currently Selected:

Psalmau 22: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in