YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 19

19
Y Psalm. XIX. Toddaid.
1Traethant ogoniant genau — y nefoedh
I Dduw ar gyhoedh, im’ oedh Iôr mau;
A ’r ffurfafen nen wniau — yn berffaith
A dhengys ei waith, araith orau.
2I dhydh dengys dydh a dydhiau — yn lan,
A dysg nos weithian dasg nosweithiau;
3Tafod perffaith, iaith uwch ieithiau, — ni bydh,
Heb eu lleferydh gwiwrydh gorau.
4Aeth eu llin yn flin i flaenau — ’r dhaear,
A thrwy ’r byd ’ wasgar, gwar, a’i gyrrau;
Aeth eu gair diwair ìs deau — lawen,
Gwnaeth bebyll i nen heulwen olau.
5Fal mab glan allan wellau — o hirbell,
Priawd o’i ’stafell a’i gafell gau;
Llawenferth o’i nerth, iawn wyrthiau, — rhedeg,
A’i arf oreudeg yrfa reidiau.
6I fynediad mad ammodau — allan
O eithaf nef‐lan, anian winau;
A’i gwmpas adhas a wydhau — ’r bydoedh,
Eithaf deyrnasoedh ydoedh ’nodau.
Nid oes am einioes mannau — yw gudhiaw,
Rhag yw wres dwyman a braw, Iôr, brau;
7Dedhf Nêr sy dyner dewinau — ’n frosi
Ymi, a nodi i Dduw eneidiau.
Dysg doethder yn bêr heb au — ir truan,
A’i dyst loyw weithian dystiolaethau;
8Llawenfron galon gwiliau — unionant,
A gyfer weithiant ei gyfreithiau.
Gorchymmyn Duw gwỳn, nid gau, — ba ’r fynych
I lygad lewych, loywgad liwiau;
9Glan ei ofn, a dofn dafnau, — byth bythoedh,
A bery oesoedh heb awr eisiau.
Iôr, ei farn gadarn ergydiau, — gwiredh,
Gyda chyfiawnedh, da, medh Duw mau;
10Gwell nag aur, rhudhaur, rhodhau, — felynaur,
A gwell na ’r todhaur, buraur, heb au.
Melysach, bêrach borau, — uwch y fal,
Na mawlair dal y mêl o ’r diliau;
11Wyf dhigas, dy was, dieisiau — rhybydh
Drwydhynt, digerydh, dreidhiant gorau.
Bu rad yw ceidwad yn cau — yn llawen,
Mor wiwber awen mawr wobrwyau;
12Pwy wydhai a f’ai o feiau? — cadw, trig,
Rhag rhai cudhiedig, didhig dydhiau.
13Cadw dy was, dod ras drwy oesau, — mawr ffrwyth,
O ebwch adwyth ei bechodau;
Na’d idhynt ar hynt fawrhau, — draw arnaf,
Deyrnasu, bydhaf fab breisgnaf brau.
Bydhaf weithian lan o dholenau, — dìr,
14O lawer enwir hyloyw riniau;
Fy Mhrynwr, Nodhwr yn nydhiau — caled,
Gwir Unduw, gwared, gwrando y geiriau.

Currently Selected:

Psalmau 19: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in