YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 17

17
Y Psalm. XVII. Cywydd Deuair Hirion.
1Gwrando, Arglwydh purlwydh, pêr,
O fendith, ar gyfiawnder;
Ystyria, o ras d’araith,
Fy nghur mawr, fy nghri maith;
Gwrando ’ngwedhi ’n porthi pwyll,
Gŵyn dadl o’m genau didwyll.
2O’th wyneb, gywreindeb gwỳn,
Y dêl fy marn adolwyn;
Bid d’olwg yn amlwg, Nêr,
Ein Unduw, ar uniawnder.
3Pan chwiliaist, gwelaist, Geli,
Y ’nghêl nos fy nghalon i;
Profaist, ni chefaist ychwaith
Wag eiriau, na drwg araith.
4Geiriau d’enau, gwir dinam,
A geidw gwr, gwedi, o gam; —
O waith a ffordh waetha’ ffol,
O wan awydh annuwiol.
5Par fy ngherdhed trodhed rhwydh
I’th lwybrau, iaith loyw ebrwydh;
Na bo i’m traed, heb ammod draw,
Faith wael weithred, fyth lithraw.
6Galwa’ di, ond golud hawl,
Clywi ’n wyrth, Celi nerthawl;
Erglyw, dhoeth aroglaidh Dduw,
Gwrando fy mharabl, gwir Unduw.
7Dod drugaredh ryfedh, rad,
Duw gadarn, ydwyd Geidwad
A dhêl dan dy dheheulaw, —
Galon drist rhag gelyn draw.
8Cadw fy mraint, ni’s caid fy mrad,
Llugern, ail lleufer llygad;
Cudh fi y ’nghysgod ffurfglod ffydh,
Ydwyd union, dan d’adenydh,
9Rhag yr enwir, hagr ynni,
Rhegen tost, a’m rhwygant i;
A’m gelynion gweigion gant,
I’m pwysaw a’m cwmpasant.
10Llyna feilch yn llawn o fêr,
Obry ystwyth, a brasder;
O’u genau daw egwan dôn,
Oera bwlch, eiriau beilchion.
11Ein llwybr ni, lle byr a wnant
O’i gau, eilchwyl amgylchant;
Ag a’u llygad, gwall agos,
Obry ar ffull, i ’n bwrw ir ffos.
12Fal y llew ifangc gwangcaidh
I ’r prae, a fynnai o ’r praidh;
Fal cenau llew, fal cnyw llech,
O fewn dudwll f’ai ’n didech.
13Cyfod, Arglwydh, culwydh cu,
O fawl iawn yw ragflaenu;
A bwrw ir llawr, heb fawr fyd,
Anwr hyf, enwir hefyd;
Gwared fy enaid gwir‐hoyw
Rhag enwiredh, a’th gledh gloyw.
14Rhag gwyr, nid rhai cywira’,
Rhag gwyr dy law a dhaw ’n dha;
Duw, rhag gwyr draw eu carwn,
O ’r bywyd hardh, a ’r byd hwn,
A’u rhan, ni bu rhai wannach,
Sydh ir byd a ’r bywyd bach:
Llenwaist eu boliau ’n llonaid
O ’r cudh drysor, hwy a’i caid;
I’w meibion dhigon a dhaw,
A’u gwedhill wedi gudhiaw;
I’w plant y mynnant eu mud,
Duw a’u gwyl, ado’u golud.
15Edrychaf d’wyneb, Naf, Nêr,
O fendith, mewn kyfiawnder;
Wrth dheffro, digyffro yw ’r gwedh,
O’th lun caf berffaith lawnedh.

Currently Selected:

Psalmau 17: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in