YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 11

11
1Agor dy byrth, O Lebanon,
er mwyn i dân ysu dy gedrwydd.
2Galarwch, ffynidwydd; oherwydd syrthiodd y cedrwydd,
dinistriwyd y coed cryfion.
Galarwch, dderw Basan,
oherwydd syrthiodd y goedwig drwchus.
3Clywch alarnadu'r bugeiliaid,
am i'w gogoniant gael ei ddinistrio;
clywch ru'r llewod,
am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha.
Y Ddau Fugail
4Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: “Portha'r praidd sydd i'w lladd. 5Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, ‘Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth’; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt. 6Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael.”
7Porthais y praidd a oedd i'w lladd ar gyfer y marchnatwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw'r naill, Trugaredd, a'r llall, Undeb; a phorthais y praidd. 8Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghasáu innau. 9Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.” 10A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd. 11Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn. 12A dywedais wrthynt, “Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.” A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian. 13Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Bwrw ef i'r drysorfa#11:13 Felly Syrieg. Hebraeg, crochenydd.—y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!” A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhŷ'r ARGLWYDD. 14Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer eto offer bugail diwerth, 16oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig#11:16 Felly Syrieg. Hebraeg, ceisio'r llanc., nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd.
17“Gwae'r bugail diwerth,
sy'n gadael y praidd.
Trawed y cleddyf ei fraich
a'i lygad de;
bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth,
a'i lygad de yn hollol ddall.”

Currently Selected:

Sechareia 11: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Sechareia 11