YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 94

94
1O ARGLWYDD, Dduw dial,
Dduw dial, ymddangos.
2Cyfod, O farnwr y ddaear,
rho eu haeddiant i'r balch.
3Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD,
y bydd y drygionus yn gorfoleddu?
4Y maent yn tywallt eu parabl trahaus;
y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalchïo.
5Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD,
ac yn poenydio dy etifeddiaeth.
6Lladdant y weddw a'r estron,
a llofruddio'r amddifad,
7a dweud, “Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld,
ac nid yw Duw Jacob yn sylwi.”
8Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl!
Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?
9Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed,
a'r un a luniodd lygad yn gweld?
10Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd,
a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?
11Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl,
mai gwynt ydynt.
12Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD,
ac a ddysgi allan o'th gyfraith,
13i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd,
nes agor pwll i'r drygionus.
14Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl,
nac yn gadael ei etifeddiaeth;
15oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn,
a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.
16Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus,
a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?
17Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyo
byddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.
18Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,
yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
19Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,
y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.
20A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw,
sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?
21Cytunant â'i gilydd am fywyd y cyfiawn,
a chondemnio'r dieuog i farw.
22Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi,
a'm Duw yn graig i'm llochesu.
23Daw â'u camweddau eu hunain yn ôl arnynt,
ac fe'u diddyma am eu drygioni.
Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.

Currently Selected:

Y Salmau 94: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in