YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 87

87
I feibion Cora. Salm. Cân.
1Ar fynyddoedd sanctaidd y sylfaenodd hi;
2y mae'r ARGLWYDD yn caru pyrth Seion
yn fwy na holl drigfannau Jacob.
3Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti,
O ddinas Duw.
Sela
4“Yr wyf yn enwi Rahab a Babilon
ymysg y rhai sy'n fy nghydnabod;
am Philistia, Tyrus ac Ethiopia
fe ddywedir, ‘Ganwyd hwy yno’.”
5Ac fe ddywedir am Seion,
“Ganwyd hwn-a-hwn ynddi;
y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi.”
6Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu,
“Ganwyd hwy yno.”
Sela
7Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud,
“Y mae fy holl darddiadau ynot ti.”

Currently Selected:

Y Salmau 87: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in