YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 6

6
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol, ar Seminith. Salm. I Ddafydd.
1 ARGLWYDD, paid â'm ceryddu yn dy ddig,
paid â'm cosbi yn dy lid.
2Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg;
iachâ fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn,
3y mae fy enaid mewn arswyd mawr.
Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd?
4Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid;
achub fi er mwyn dy ffyddlondeb.
5Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau;
pwy sy'n dy foli di yn Sheol?
6Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan;
bob nos y mae fy ngwely'n foddfa,
trochaf fy ngobennydd â'm dagrau.
7Pylodd fy llygaid gan ofid,
a phallu oherwydd fy holl elynion.
8Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni,
oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo.
9Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad,
ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.
10Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion;
trônt yn ôl a'u cywilyddio'n sydyn.

Currently Selected:

Y Salmau 6: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in