YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 48

48
Cân. Salm. I feibion Cora.
1Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl
yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd.
2Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear,
yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd,
dinas y Brenin Mawr.
3Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw
wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa.
4Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull
ac wedi dyfod at ei gilydd;
5ond pan welsant, fe'u synnwyd,
fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi;
6daeth dychryn arnynt yno,
a gwewyr, fel gwraig yn esgor,
7fel pan fo gwynt y dwyrain
yn dryllio llongau Tarsis.
8Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom
yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd,
yn ninas ein Duw ni
a gynhelir gan Dduw am byth.
Sela
9O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb
yng nghanol dy deml.
10Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl
yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear.
Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder;
11bydded i Fynydd Seion lawenhau.
Bydded i drefi Jwda orfoleddu
oherwydd dy farnedigaethau.
12Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch,
rhifwch ei thyrau,
13sylwch ar ei magwyrydd,
ewch trwy ei chaerau,
fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi,
14“Dyma Dduw!
Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd,
fe'n harwain yn dragywydd.”

Currently Selected:

Y Salmau 48: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in