YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 23

23
Salm. I Ddafydd.
1Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
2Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,
a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
3ac y mae ef yn fy adfywio.
Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder
er mwyn ei enw.
4Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du,
nid ofnaf unrhyw niwed,
oherwydd yr wyt ti gyda mi,
a'th wialen a'th ffon
yn fy nghysuro.
5Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen
yng ngŵydd fy ngelynion;
yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew;
y mae fy nghwpan yn llawn.
6Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn
bob dydd o'm bywyd,
a byddaf yn byw yn nhŷ'r ARGLWYDD
weddill fy nyddiau.

Currently Selected:

Y Salmau 23: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in