YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 19

19
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,
a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.
2Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd,
a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.
3Nid oes iaith na geiriau ganddynt,
ni chlywir eu llais;
4eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaear
a'u lleferydd hyd eithafoedd byd.
Ynddynt gosododd babell i'r haul,
5sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,
yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.
6O eithaf y nefoedd y mae'n codi,
a'i gylch hyd yr eithaf arall;
ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,
yn adfywio'r enaid;
y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,
yn gwneud y syml yn ddoeth;
8y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,
yn llawenhau'r galon;
y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,
yn goleuo'r llygaid;
9y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân,
yn para am byth;
y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir,
yn gyfiawn bob un.
10Mwy dymunol ydynt nag aur,
na llawer o aur coeth,
a melysach na mêl,
ac na diferion diliau mêl.
11Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi,
ac o'u cadw y mae gwobr fawr.
12Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau?
Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
13Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar,
rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf.
Yna byddaf yn ddifeius,
ac yn ddieuog o bechod mawr.
14Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt,
a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti,
O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.

Currently Selected:

Y Salmau 19: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in