YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 129

129
Cân Esgyniad.
1Lawer gwaith o'm hieuenctid buont yn ymosod arnaf—
dyweded Israel yn awr—
2lawer gwaith o'm hieuenctid buont yn ymosod arnaf,
ond heb erioed fod yn drech na mi.
3Y mae'r arddwyr wedi aredig fy nghefn
gan dynnu cwysau hirion.
4Ond y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn;
torrodd raffau'r rhai drygionus.
5Bydded i'r holl rai sy'n casáu Seion
gywilyddio a chilio'n ôl;
6byddant fel glaswellt pen to,
sy'n crino cyn iddo flaguro—
7ni leinw byth law'r medelwr,
na gwneud coflaid i'r rhwymwr,
8ac ni ddywed neb wrth fynd heibio,
“Bendith yr ARGLWYDD arnoch!
Bendithiwn chwi yn enw'r ARGLWYDD.”

Currently Selected:

Y Salmau 129: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in