YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 127

127
Cân Esgyniad. I Solomon.
1Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ,
y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer.
Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas,
y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer.
2Yn ofer y codwch yn fore,
a mynd yn hwyr i orffwyso,
a llafurio am y bwyd a fwytewch;
oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu.
3Wele, etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion,
a gwobr yw ffrwyth y groth.
4Fel saethau yn llaw rhyfelwr
yw meibion ieuenctid dyn.
5Gwyn ei fyd y sawl
sydd â chawell llawn ohonynt;
ni chywilyddir ef
pan ddadleua â'i elynion yn y porth.

Currently Selected:

Y Salmau 127: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in