YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 112

112
1Molwch yr ARGLWYDD.
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD,
ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.
2Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear,
yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.
3Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ,
a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
4Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn;
y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog.#112:4 Felly rhai llawysgrifau. TM, graslon a thrugarog a chyfiawn.
5Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg,
a threfnu ei orchwylion yn onest;
6oherwydd ni symudir ef o gwbl,
a chofir y cyfiawn dros byth.
7Nid yw'n ofni newyddion drwg;
y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
8Y mae ei galon yn ddisigl, ac nid ofna
nes iddo weld diwedd ar ei elynion.
9Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion;
y mae ei gyfiawnder yn para am byth,
a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd.
10Gwêl y drygionus hyn ac y mae'n ddig;
ysgyrnyga'i ddannedd a diffygia;
derfydd am obaith y drygionus.

Currently Selected:

Y Salmau 112: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in