Y Salmau 101
101
I Ddafydd. Salm.
1Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder;
i ti, ARGLWYDD, y pynciaf gerdd.
2Rhof sylw i'r ffordd berffaith;
pa bryd y deui ataf?
Rhodiaf â chalon gywir
ymysg fy nhylwyth;
3ni osodaf fy llygaid
ar ddim annheilwng.
Cas gennyf yr un sy'n twyllo;
nid oes a wnelwyf ddim ag ef.
4Bydd y gwyrgam o galon yn troi oddi wrthyf,
ac ni fyddaf yn cymdeithasu â'r drwg.
5Pwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn ddirgel,
rhof daw arno;
y ffroenuchel a'r balch,
ni allaf ei oddef.
6Ond y mae fy llygaid ar ffyddloniaid y tir,
iddynt gael trigo gyda mi;
y sawl a rodia yn y ffordd berffaith
a fydd yn fy ngwasanaethu.
7Ni chaiff unrhyw un sy'n twyllo
drigo yn fy nhŷ,
nac unrhyw un sy'n dweud celwydd
aros yn fy ngŵydd.
8Fore ar ôl bore rhof daw
ar holl rai drygionus y wlad,
a thorraf ymaith o ddinas yr ARGLWYDD
yr holl wneuthurwyr drygioni.
Currently Selected:
Y Salmau 101: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004