YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 25

25
Rhagor o Ddiarhebion Solomon
1Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda:
2Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig,
a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan.
3Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,
felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.
4Symud yr amhuredd o'r arian,
a daw'n llestr yn llaw'r gof.
5Symud y drygionus o ŵydd y brenin,
a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.
6Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,
na sefyll yn lle'r mawrion,
7oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,
na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.
8Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist#25:8 Hebraeg, yr hyn a welaist yn yr adn. flaenorol.,
rhag, wedi iti orffen gwneud hynny,
i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.
9Dadlau dy achos â'th gymydog,
ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall,
10rhag iddo dy sarhau pan glyw,
a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl.
11Fel afalau aur ar addurniadau o arian,
felly y mae gair a leferir yn ei bryd.
12Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr,
felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.
13Fel oerni eira yn amser cynhaeaf,
felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon;
y mae'n adfywio ysbryd ei feistri.
14Fel cymylau a gwynt, na roddant law,
felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi.
15Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr,
a gall tafod tyner dorri asgwrn.
16Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat,
rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.
17Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog,
rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu.
18Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw,
felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.
19Fel dant drwg, neu droed yn llithro,
felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.
20Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,
neu roi finegr ar friw,
felly y mae canu caneuon i galon drist.
21Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,
ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;
22byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,
ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.
23Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,
a thafod enllibus yn dod â chilwg.
24Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ
na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
25Fel dŵr oer i lwnc sychedig,
felly y mae newydd da o wlad bell.
26Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru,
felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus.
27Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl,
a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth.#25:27 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, a chwilio eu hanrhydedd yw anrhydedd.
28Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur,
felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.

Currently Selected:

Diarhebion 25: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in