YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 21

21
1Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr;
fe'i try i ble bynnag y dymuna.
2Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
3Y mae gwneud cyfiawnder a barn
yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4Llygaid balch a chalon ymffrostgar,
dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
5Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,
ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
6Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd
fel tarth yn diflannu neu fagl#21:6 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, neu rai'n ceisio. marwolaeth.
7Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,
am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
8Troellog yw ffordd y troseddwr,
ond uniawn yw gweithred y didwyll.
9Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷ
na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;
nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
11Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;
ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
12Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;
y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
13Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,
ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
14Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
15Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,
ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
16Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall
yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
17Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,
ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
18Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn,
a'r twyllwr dros y rhai uniawn.
19Gwell byw mewn anialwch
na chyda gwraig gecrus a dicllon.
20Yn nhŷ'r doeth y mae trysor dymunol ac olew,
ond y mae'r ffôl yn eu difa.
21Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch
yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
22Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn
a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.
23Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,
fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.
24Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,
gweithreda yn gwbl drahaus.
25Y mae blys y diog yn ei ladd,
am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.
26Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser#21:26 Felly Groeg. Hebraeg, Y mae bob amser yn trachwantu'n drachwantus.,
ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.
27Ffiaidd yw aberth y drygionus,
yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.
28Difethir y tyst celwyddog,
ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.
29Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,
ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.
30Nid yw doethineb na deall na chyngor
yn ddim o flaen yr ARGLWYDD.
31Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr,
eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.

Currently Selected:

Diarhebion 21: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in