YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 17

17
Ffon Aaron
1 # 17:1 Hebraeg, 17:16. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Llefara wrth bobl Israel, a chymer wialen gan bob un o arweinwyr y tylwythau, deuddeg i gyd. Ysgrifenna enw pob dyn ar ei wialen, 3ond ar wialen Lefi ysgrifenna enw Aaron. Felly bydd gan bob un o arweinwyr y tylwythau wialen. 4Yna yr wyt i osod y gwiail ym mhabell y cyfarfod, o flaen y dystiolaeth, lle byddaf yn cwrdd â thi#17:4 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, chwi.. 5Bydd gwialen y dyn a ddewisaf fi yn blaguro; dyma sut y rhoddaf daw ar yr Israeliaid sy'n grwgnach yn dy erbyn.” 6Felly llefarodd Moses wrth bobl Israel, a rhoddodd pob un o arweinwyr y tylwythau wialen iddo, deuddeg i gyd; ac yr oedd gwialen Aaron ymhlith eu gwiail hwy. 7Yna gosododd Moses y gwiail gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y dystiolaeth.
8Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tŷ Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed. 9Yna daeth Moses â'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen. 10Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Rho wialen Aaron yn ôl o flaen y dystiolaeth fel arwydd i'r rhai gwrthryfelgar; rhydd hyn daw ar eu grwgnach yn f'erbyn, rhag iddynt farw.” 11Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
12Dywedodd pobl Israel wrth Moses, “Edrych, yr ydym yn trengi! Y mae wedi darfod amdanom! Y mae wedi darfod am bob un ohonom! 13Bydd pob un sy'n nesáu at dabernacl yr ARGLWYDD yn marw. Ai trengi fydd tynged pob un ohonom?”

Currently Selected:

Numeri 17: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in