YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 9

9
Y Bobl yn Cyffesu eu Pechodau
1Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn ymgasglodd yr Israeliaid i ymprydio, gan wisgo sachliain a rhoi pridd ar eu pennau. 2Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid. 3Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw. 4Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw. 5A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, “Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb:
“Bendithier dy enw gogoneddus
sy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.
6Ti yn unig wyt ARGLWYDD.
Ti a wnaeth y nefoedd,
nef y nefoedd a'i holl luoedd,
y ddaear a'r cwbl sydd arni,
y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt;
ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd,
ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.
7Ti yw yr ARGLWYDD Dduw,
ti a ddewisodd Abram
a'i dywys o Ur y Caldeaid,
a rhoi iddo'r enw Abraham;
8fe'i cefaist yn ffyddlon i ti,
a gwnaethost gyfamod ag ef,
i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid,
yr Hethiaid, yr Amoriaid,
y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid.
Ac fe gedwaist dy air,
oherwydd cyfiawn wyt ti.
9“Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft,
a gwrandewaist ar eu cri wrth y Môr Coch.
10Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharo
a'i holl weision a holl drigolion ei wlad,
am dy fod yn gwybod iddynt ymfalchïo yn eu herbyn;
a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.
11Holltaist y môr o'u blaen,
ac aethant drwyddo ar dir sych.
Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder,
fel carreg i ddyfroedd geirwon.
12Arweiniaist hwy â cholofn gwmwl liw dydd,
a liw nos â cholofn dân,
er mwyn goleuo'r ffordd a dramwyent.
13Daethost i lawr ar Fynydd Sinai,
siaredaist â hwy o'r nefoedd.
Rhoddaist iddynt farnau cyfiawn
a chyfreithiau gwir
a deddfau a gorchmynion da.
14Dywedaist wrthynt am dy Saboth sanctaidd,
a thrwy Moses dy was
rhoddaist iddynt orchmynion a deddfau a chyfraith.
15Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd,
a thynnu dŵr o'r graig iddynt yn eu syched.
Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlad
y tyngaist ti i'w rhoi iddynt.
16“Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig,
a gwrthod gwrando ar dy orchmynion.
17Gwrthodasant wrando,
ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodau
a wnaethost iddynt.
Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydd
er mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft#9:17 Felly llawysgrifau. TM, yn eu gwrthryfel..
Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau,
yn raslon a thrugarog,
araf i ddigio a llawn ffyddlondeb,
ac ni wrthodaist hwy.
18Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud,
‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’,
a chablu'n ddirfawr,
19yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch.
Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwl
a'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd,
na'r golofn dân liw nos,
a oleuai'r ffordd a dramwyent.
20Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;
nid ateliaist dy fanna rhagddynt;
rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.
21Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwch
heb fod arnynt eisiau dim;
nid oedd eu dillad yn treulio
na'u traed yn chwyddo.
22“Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,
a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.
Cawsant feddiant o wlad Sihon#9:22 Felly llawysgrif. TM, Sihon a gwlad. brenin Hesbon
a gwlad Og brenin Basan.
23Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd,
a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaid
am fynd iddi i'w meddiannu.
24Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;
darostyngaist tithau drigolion y wlad,
y Canaaneaid, o'u blaen,
a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,
iddynt wneud fel y mynnent â hwy.
25Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,
a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,
pydewau wedi eu cloddio,
gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;
bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,
a mwynhau dy ddaioni mawr.
26Ond fe aethant yn anufudd
a gwrthryfela yn dy erbyn.
Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,
a lladd dy broffwydi
oedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,
a chablu'n ddirfawr.
27Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr,
a chawsant eu gorthrymu.
Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat,
ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd;
yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynt
i'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.
28Ond pan gawsant lonydd,
dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg.
Gadewaist hwy i'w gelynion,
a chawsant eu mathru.
Unwaith eto galwasant arnat,
a gwrandewaist tithau o'r nefoedd,
a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.
29Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith,
ond aethant yn falch
a gwrthod ufuddhau i'th orchmynion;
pechasant yn erbyn dy farnau
sydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw.
Troesant eu cefnau'n ystyfnig,
a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.
30Buost yn amyneddgar â hwy
am flynyddoedd lawer,
a'u rhybuddio â'th ysbryd
trwy dy broffwydi,
ond ni wrandawsant;
am hynny rhoddaist hwy yn nwylo pobloedd estron.
31Ond yn dy drugaredd fawr
ni ddifethaist hwy yn llwyr na'u gadael,
oherwydd Duw graslon a thrugarog wyt ti.
32“Yn awr, O ein Duw,
y Duw mawr, cryf ac ofnadwy,
sy'n cadw cyfamod a thrugaredd,
paid â diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom—
ar ein brenhinoedd a'n tywysogion,
ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid,
ac ar dy holl bobl—
o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.
33Buost ti yn gyfiawn
yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni;
buost ti yn ffyddlon,
ond buom ni yn ddrwg.
34Ni chadwodd ein brenhinoedd na'n tywysogion,
ein hoffeiriaid na'n hynafiaid, dy gyfraith;
ni wrandawsant ar dy orchmynion,
nac ar y rhybuddion a roddaist iddynt.
35Hyd yn oed yn eu teyrnas eu hunain
ynghanol y daioni mawr a ddangosaist tuag atynt,
yn y wlad eang a thoreithiog a roddaist iddynt,
gwrthodasant dy wasanaethu
a throi oddi wrth eu drwgweithredoedd.
36Dyma ni heddiw yn gaethweision,
caethweision yn y wlad a roddaist i'n hynafiaid
i fwyta'i ffrwyth a'i braster.
37Y mae ei holl gynnyrch yn mynd i'r brenhinoedd
a osodaist arnom am ein pechodau.
Y maent yn rheoli ein cyrff,
ac yn gwneud fel y mynnant â'n hanifeiliaid;
yr ydym ni mewn helbul mawr.”
Selio Datganiad Ysgrifenedig
38Oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig, ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid a'n hoffeiriaid, yn ei selio.

Currently Selected:

Nehemeia 9: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in