Mathew 5
5
Y Bregeth ar y Mynydd
Mth. 5—7
1Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. 2Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:
Y Gwynfydau
Lc. 6:20–23
3“Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
4Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru,
oherwydd cânt hwy eu cysuro.
5Gwyn eu byd y rhai addfwyn,
oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.
6Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder,
oherwydd cânt hwy eu digon.
7Gwyn eu byd y rhai trugarog,
oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
8Gwyn eu byd y rhai pur eu calon,
oherwydd cânt hwy weld Duw.
9Gwyn eu byd y tangnefeddwyr,
oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
10Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder,
oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i. 12Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
Halen a Goleuni
Mc. 9:50; Lc. 14:34–35
13“Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed. 14Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. 15Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. 16Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Dysgeidiaeth ar y Gyfraith
17“Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni. 18Yn wir, rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd. 19Am hynny, pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd. 20Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
Dysgeidiaeth ar Ddicter
21“Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.’ 22Ond rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd#5:22 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir yn ddiachos. yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd#5:22 Neu, sy'n dweud wrth ei frawd, ‘Raca’., bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, ‘Y ffŵl’, bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern. 23Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno'n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, 24gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf â'th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm. 25Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar. 26Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf.
Dysgeidiaeth ar Odineb
27“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Na odineba.’ 28Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon. 29Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern. 30Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
Dysgeidiaeth ar Ysgariad
Mth. 19:9; Mc. 10:11–12; Lc. 16:18
31“Dywedwyd hefyd, ‘Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.’ 32Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.
Dysgeidiaeth ar Lwon
33“Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na thynga lw twyllodrus’, a ‘Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.’ 34Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw; 35nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw. 36Paid â thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu. 37Ond boed eich ‘ie’ yn ‘ie’, a'ch ‘nage’ yn ‘nage’; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.
Dysgeidiaeth ar Ddial
Lc. 6:29–30
38“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ 39Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd. 40Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd. 41Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddau. 42Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.
Caru Gelynion
Lc. 6:27–28, 32–36
43“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’ 44Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion,#5:44 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu. a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid; 45felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn. 46Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint â hynny? 47Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint â hynny? 48Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.
Currently Selected:
Mathew 5: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004