Jwdas 1
1
Cyfarch
1Jwdas, gwas Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai sydd wedi eu galw, yn annwyl gan Dduw y Tad ac wedi eu cadw i Iesu Grist. 2Trugaredd a thangnefedd a chariad a amlhaer i chwi!
Barn ar Athrawon Gau
2 Ped. 2:1–17
3Gyfeillion annwyl, yr oeddwn yn awyddus iawn i ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth sy'n eiddo i ni i gyd, ond daeth rheidrwydd arnaf i ysgrifennu atoch i'ch annog i ymuno yn y frwydr o blaid y ffydd a draddodwyd un waith am byth i'r saint. 4Oherwydd y mae rhywrai wedi llithro'n llechwraidd i'ch plith, rhai y mae'r farnedigaeth hon arnynt wedi ei chofnodi erstalwm, mai pobl annuwiol ydynt, yn troi gras ein Duw ni yn anlladrwydd, ac yn gwadu ein hunig Feistr ac Arglwydd, Iesu Grist.
5Er eich bod chwi'n gwybod hyn oll, yr wyf am eich atgoffa fod yr Arglwydd, er iddo unwaith waredu'r bobl#1:5 Yn ôl darlleniad arall, Er eich bod un waith am byth wedi cael gwybod hyn oll, yr wyf am eich atgoffa fod Iesu (cyfeiriad, o bosibl, at Josua), er iddo waredu'r bobl. o dir yr Aifft, wedi dinistrio wedyn y rhai oedd heb gredu. 6Cofiwch yr angylion hefyd, y rhai a wrthododd gadw o fewn terfynau eu llywodraeth ac a gefnodd ar eu trigfan eu hunain, iddo ef eu cadw hwy yn y tywyllwch mewn cadwynau tragwyddol, i aros barn y Dydd mawr. 7A chofiwch Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u cwmpas; fel yr angylion, ymollwng a wnaethant hwythau i buteindra ac i borthi eu chwantau annaturiol. Wrth gael eu cosbi yn y tân tragwyddol, y maent yn esiampl amlwg i bawb.
8Y mae'r un fath eto yn achos y rhai hyn. Y mae eu breuddwydio yn peri iddynt halogi'r cnawd, a diystyru awdurdod, a sarhau'r bodau nefol. 9Pan oedd Mihangel, yr archangel, mewn ymryson â'r diafol yn dadlau am gorff Moses, ni feiddiodd gyhoeddi barn a fyddai'n sarhau'r diafol; yn hytrach dywedodd, “Cerydded yr Arglwydd di.” 10Ond y mae'r bobl hyn yn sarhau'r pethau nad ydynt yn eu deall, a'r pethau y maent yn eu deall wrth reddf fel anifeiliaid direswm yw'r pethau sydd yn eu dinistrio. 11Gwae hwy! Y maent wedi dilyn llwybr Cain; y maent wedi ymollwng, er mwyn elw, i gyfeiliornad Balaam; y maent wedi gwrthryfela fel Core, a darfod amdanynt. 12Dyma'r rhai sydd yn feflau yn eich cariad-wleddoedd, yn cydeistedd â chwi yn ddigywilydd, bugeiliaid sy'n eu pesgi eu hunain. Cymylau heb ddŵr ydynt, yn cael eu chwythu ymaith gan wyntoedd; coed yr hydref, yn ddiffrwyth ac wedi eu diwreiddio, ddwywaith yn farw; 13tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu llysnafedd eu gweithredoedd; sêr wedi crwydro o'u llwybrau, a'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt am byth.
14Am y rhain y mae Enoch hefyd, y seithfed yn llinach Adda, wedi proffwydo wrth ddweud, “Wele, y mae'r Arglwydd yn dod gyda'i fyrddiynau sanctaidd 15i weithredu barn ar bawb, i'w condemnio i gyd am annuwioldeb eu holl weithredoedd ysgeler, ac am atgasedd holl eiriau'r pechaduriaid annuwiol hynny yn ei erbyn.” 16Pobl yn caru grwgnach a gweld bai yw'r rhain, yn byw yn ôl eu chwantau eu hunain, yn ymffrostgar eu siarad, yn gynffonwyr er mwyn ffafr.
Rhybuddion ac Anogaethau
17Ond dylech chwi, gyfeillion annwyl, gofio'r pethau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist. 18Dywedasant wrthych, “Yn yr amser diwethaf fe fydd gwatwarwyr, pobl a fydd yn byw yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.” 19Dyma'r rhai fydd yn achosi rhaniadau, pobl fydol yn amddifad o'r Ysbryd. 20Ond rhaid i chwi, gyfeillion annwyl, eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân; 21cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i'n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi ichwi fywyd tragwyddol. 22Y mae rhai y dylech dosturio wrthynt yn eu hamheuon, eraill y dylech eu hachub a'u cipio o'r tân, 23ac y mae eraill y dylech dosturio wrthynt gydag ofn, gan gasáu hyd yn oed y dilledyn sydd â llygredd y cnawd arno.
Bendith
24Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i'ch cadw rhag syrthio, a'ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant, 25iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.
Currently Selected:
Jwdas 1: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004