YouVersion Logo
Search Icon

Josua 8

8
Goresgyn a Llosgi Ai
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid ag ofni nac arswydo; cymer y rhyfelwyr i gyd gyda thi, a dos i fyny at Ai. Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy law frenin Ai gyda'i bobl, ei ddinas a'i dir. 2Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas.”
3Cychwynnodd Josua a'r holl fyddin i fyny yn erbyn Ai; a dewisodd Josua ddeng mil ar hugain o ryfelwyr dewr, a'u hanfon ymlaen liw nos. 4Yna gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Edrychwch, yr ydych i guddio o olwg y ddinas, y tu cefn iddi; ond peidiwch â mynd yn rhy bell oddi wrthi, a byddwch i gyd yn barod. 5Byddaf fi a'r holl fyddin sydd gyda mi yn agosáu at y ddinas, a phan ddônt allan i ymosod arnom fel y tro cyntaf, yna byddwn yn ffoi o'u blaen. 6Fe ddônt hwythau ar ein hôl nes inni eu denu hwy o'r ddinas, gan feddwl ein bod yn ffoi o'u blaen fel y gwnaethom y tro cynt. 7Codwch chwithau o'ch cuddfan a meddiannu'r dref, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich llaw. 8Wedi ichwi oresgyn y dref, llosgwch hi â thân. Gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD; edrychwch, dyma fy ngorchymyn i chwi.” 9Wedi i Josua eu hanfon ymaith, aethant i guddfan a'u gosod eu hunain rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o Ai. Treuliodd Josua'r noson honno gyda'r fyddin.
10Cododd Josua a'r henuriaid yn fore drannoeth a chynnull y fyddin a'i harwain tuag Ai. 11Aeth yr holl fyddin oedd gydag ef i fyny, a nesáu at ymyl y dref a gwersyllu i'r gogledd iddi, gyda dyffryn rhyngddynt hwy ac Ai. 12Yr oedd wedi dewis tua phum mil o wŷr ac wedi eu rhoi i guddio rhwng Bethel ac Ai i'r gorllewin o'r dref. 13Yr oedd crynswth y fyddin yn gwersyllu i'r gogledd o'r dref a'r milwyr cudd i'r gorllewin o'r dref; treuliodd#8:13 Felly rhai llawysgrifau. TM, aeth. Cymh. adn. 9. Josua y noson honno ar lawr y dyffryn. 14Pan welodd brenin Ai hwy, brysiodd ef a dynion y dref yn gynnar yn y bore i fynd allan gyda'r holl fyddin i gyfarfod Israel mewn brwydr ar lecyn yn wynebu'r Araba, heb wybod bod milwyr yn llechu y tu ôl i'r dref. 15Ffodd Josua a'r Israeliaid oll i gyfeiriad yr anialwch, fel pe baent wedi eu taro ganddynt. 16Galwyd yr holl bobl oedd yn y dref i ymlid ar eu hôl; ac wrth iddynt ymlid ar ôl Josua, fe'u denwyd i ffwrdd o'r dref. 17Nid oedd neb ar ôl yn Ai na Bethel heb fynd allan ar ôl Israel; gadawsant y dref yn benagored a mynd i ymlid yr Israeliaid.
18Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag Ai, oherwydd yr wyf am roi'r dref yn dy law.” 19Estynnodd Josua'r waywffon oedd yn ei law tua'r dref; ac fel yr estynnai ei law, cododd y milwyr cudd o'u lle ar unwaith, a rhuthro i mewn i'r dref a'i chipio, a llosgi'r dref heb oedi dim. 20Pan drodd dynion Ai ac edrych yn eu hôl, gwelsant fwg y dref yn esgyn i'r awyr, ond ni allent ffoi nac yma nac acw, gan fod y fyddin a fu'n ffoi tua'r anialwch wedi troi i wynebu ei herlidwyr; 21oherwydd pan welodd Josua a holl Israel fod y milwyr cudd wedi cipio'r dref, a bod mwg yn codi ohoni, troesant yn eu hôl ac ymosod ar ddynion Ai. 22Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc. 23Daliwyd brenin Ai yn fyw, a daethant ag ef gerbron Josua.
24Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo â'r cleddyf. 25Nifer y rhai a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd deuddeng mil, yn wŷr a gwragedd, sef holl boblogaeth Ai. 26Ni thynnodd Josua'n ôl y llaw oedd yn dal y waywffon nes difa holl drigolion Ai. 27Dim ond y gwartheg ac anrhaith y dref a gymerodd yr Israeliaid yn ysbail iddynt eu hunain, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua. 28Llosgodd Josua Ai a'i gadael yn domen barhaol a erys yn ddiffaith hyd heddiw. 29Crogodd frenin Ai ar grocbren hyd yr hwyr, ac ar fachlud yr haul gorchmynnodd Josua iddynt dynnu ei gorff i lawr o'r crocbren a'i daflu ger y fynedfa i'r dref; codwyd carnedd fawr o gerrig drosto, sydd yno hyd heddiw.
Darllen y Gyfraith ym Mynydd Ebal
30Yna cododd Josua allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ym Mynydd Ebal. 31Fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r Israeliaid, ac fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yr oedd yr allor wedi ei hadeiladu o gerrig heb eu naddu na'u trin â haearn. Ac offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau. 32Yno yng ngŵydd yr Israeliaid ysgrifennodd ar feini gopi o gyfraith Moses. 33Yr oedd Israel gyfan—ei henuriaid, ei swyddogion, a'i barnwyr—yn sefyll o boptu'r arch, gerbron yr offeiriaid, sef y Lefiaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD. Yr oedd estron a brodor fel ei gilydd yno, hanner ohonynt ar bwys Mynydd Garisim, a hanner ar bwys Mynydd Ebal, fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn yn y dechrau ar gyfer bendithio pobl Israel. 34Wedi hynny darllenodd Josua holl eiriau'r gyfraith, y fendith a'r felltith, fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith. 35Ni adawodd Josua air o'r cyfan a orchmynnodd Moses heb ei ddarllen gerbron holl gynulleidfa Israel, gan gynnwys y gwragedd a'r plant a'r estron oedd yn aros yn eu mysg.

Currently Selected:

Josua 8: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in