YouVersion Logo
Search Icon

Josua 12

12
Y Brenhinoedd a Orchfygwyd gan Israel
1Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan yr Israeliaid ac y cymerwyd meddiant o'u tiroedd i'r dwyrain o'r Iorddonen, o nant Arnon hyd at Fynydd Hermon, gan gynnwys holl ddwyrain yr Araba: 2Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon. Yr oedd ef yn llywodraethu o Aroer, sydd ar ymyl nant Arnon, dros hanner Gilead, hynny yw, o ganol nant Arnon hyd at nant Jabboc, terfyn yr Ammoniaid; 3hefyd dros ddwyrain yr Araba o lan Môr Cinneroth at lan môr yr Araba, sef y Môr Marw, i gyfeiriad Beth-jesimoth ac ymlaen i'r de dan lethrau Pisga. 4Og#12:4 Felly Groeg. Hebraeg, A goror Og. brenin Basan, un o weddill y Reffaim, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei. 5Yr oedd ef yn llywodraethu dros Fynydd Hermon, Salcha, a Basan i gyd, hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a thros hanner Gilead hyd at derfyn Sihon brenin Hesbon. 6Fe'u gorchfygwyd gan Moses gwas yr ARGLWYDD a'r Israeliaid; a rhoddodd Moses gwas yr ARGLWYDD y tir yn feddiant i'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse.
Y Brenhinoedd a Orchfygwyd gan Josua
7Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan Josua a'r Israeliaid i'r gorllewin o'r Iorddonen, o Baal-gad yn nyffryn Lebanon hyd at Fynydd Halac sy'n codi i gyfeiriad Seir. Rhoddodd Josua'r tir yn feddiant i lwythau Israel yn ôl eu cyfrannau 8yn y mynydd-dir, y Seffela, yr Araba, y llechweddau, y diffeithwch a'r Negef; yno'r oedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Dyma'r brenhinoedd: 9brenin Jericho, brenin Ai ger Bethel, 10brenin Jerwsalem, brenin Hebron, 11brenin Jarmuth, brenin Lachis, 12brenin Eglon, brenin Geser, 13brenin Debir, brenin Geder, 14brenin Horma, brenin Arad, 15brenin Libna, brenin Adulam, 16brenin Macceda, brenin Bethel, 17brenin Tappua, brenin Heffer, 18brenin Affec, brenin Lasaron, 19brenin Madon, brenin Hasor, 20brenin Simron-meron, brenin Achsaff, 21brenin Taanach, brenin Megido, 22brenin Cedes, brenin Jocneam yng Ngharmel, 23brenin Dor yn Naffath-dor, brenin Goim yn Gilgal, 24brenin Tirsa. Yr oedd tri deg ac un o frenhinoedd i gyd.

Currently Selected:

Josua 12: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in