YouVersion Logo
Search Icon

Job 22

22
Y Trydydd Cylch Areithio
22:1—27:23
1Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2“A yw unrhyw un o werth i Dduw?
Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?
3A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn,
neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?
4Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu,
ac yn dy ddwyn i farn?
5Onid yw dy ddrygioni'n fawr,
a'th gamwedd yn ddiderfyn?
6Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos,
a dygi ymaith ddillad y tlawd.
7Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed,
a gwrthodi fara i'r newynog.
8Y cryf sy'n meddiannu'r tir,
a'r ffefryn a drig ynddo.
9Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw,
ac ysigi freichiau'r amddifad.
10Am hyn y mae maglau o'th gwmpas,
a daw ofn disymwth i'th lethu,
11a thywyllwch fel na elli weld,
a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.
12“Onid yw Duw yn uchder y nefoedd
yn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?
13Felly dywedi, ‘Beth a ŵyr Duw?
A all ef farnu trwy'r tywyllwch?
14Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,
ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’
15A gedwi di at yr hen ffordd
y rhodiodd y drygionus ynddi?
16Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,
pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.
17Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.
Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?
18Er iddo lenwi eu tai â daioni,
pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho#22:18 Felly Groeg. Hebraeg, wrthyf..
19Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;
a gwatwerir hwy gan y dieuog.
20Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf,
ac ysodd y tân eu llawnder.
21“Cytuna ag ef, a chei lwyddiant;
trwy hyn y daw daioni i ti.
22Derbyn gyfarwyddyd o'i enau,
a chadw ei eiriau yn dy galon.
23Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd,
a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,
24os ystyri aur fel pridd,
aur Offir fel cerrig y nentydd,
25yna bydd yr Hollalluog yn aur iti,
ac yn arian pur.
26Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog,
a dyrchafu dy wyneb at Dduw.
27Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy,
a byddi'n cyflawni dy addunedau.
28Pan wnei gynllun, fe lwydda iti,
a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.
29Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch;
yr isel ei fryd a wareda ef.
30Fe achub ef y dieuog#22:30 Felly Fersiynau. Hebraeg, un nad yw'n ddieuog.;
achubir ef am fod ei#22:30 Felly Fersiynau. Hebraeg, dy. ddwylo'n lân.”

Currently Selected:

Job 22: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in