YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 52

52
Cwymp Jerwsalem
2 Bren. 24:18—25:7
1Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddechreuodd deyrnasu, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg; enw ei fam oedd Hamutal merch Jeremeia o Libna. 2Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel yr oedd Jehoiacim wedi gwneud; 3ac oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i ŵydd.
Gwrthryfelodd Sedeceia yn erbyn brenin Babilon, 4ac yn nawfed flwyddyn ei deyrnasiad, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon, gyda'i holl fyddin, yn erbyn Jerwsalem, a chodi gwarchae yn ei herbyn ac adeiladu tyrau gwarchae o'i hamgylch. 5Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia. 6Yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o'r mis, yr oedd y newyn yn drwm yn y ddinas, ac nid oedd bwyd i'r werin. 7Yna bylchwyd y muriau, a ffodd yr holl ryfelwyr allan o'r ddinas yn y nos drwy'r porth rhwng y ddau fur, gerllaw gardd y brenin, er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas. Aethant i gyfeiriad yr Araba. 8Aeth llu'r Caldeaid i ymlid y brenin, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ar wasgar oddi wrtho. 9Daliwyd y brenin, a'i ddwyn o flaen brenin Babilon yn Ribla, yng ngwlad Hamath; a barnwyd ei achos ef. 10Lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid; lladdodd hefyd holl benaethiaid Jwda yn Ribla. 11Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo â chadwyni, a dygodd brenin Babilon ef i Fabilon, a'i roi mewn carchar hyd ddydd ei farw.
Dinistrio'r Deml
2 Bren. 25:8–17
12Yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu oedd yn gwasanaethu'r brenin, i Jerwsalem, 13a llosgi â thân dŷ'r ARGLWYDD, a thŷ'r brenin, a'r holl dai yn Jerwsalem, sef holl dai y bobl fawr. 14Drylliodd llu y Caldeaid, a oedd gyda phennaeth y gosgorddlu, yr holl furiau oedd yn amgylchu Jerwsalem. 15Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar ôl yn y ddinas#52:15 Hebraeg yn ychwanegu y bobl dlawd. Groeg hebddo., a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd â gweddill y crefftwyr. 16Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.
17Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, a'r trolïau a'r môr pres yn nhŷ'r ARGLWYDD, a chymryd y pres i Fabilon; 18cymerasant hefyd y crochanau, y rhawiau, y sisyrnau, y cawgiau, y thuserau, a'r holl lestri pres a oedd yng ngwasanaeth y deml. 19Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian—ffiolau, pedyll tân, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm. 20Nid oedd terfyn ar bwysau'r pres yn yr holl lestri hyn, sef y ddwy golofn, y môr a'r deuddeg ych pres oddi tano, a'r trolïau yr oedd Solomon wedi eu gwneud i dŷ'r ARGLWYDD. 21Ynglŷn â'r colofnau: yr oedd y naill yn ddeunaw cufydd o uchder, a'i hamgylchedd yn ddeuddeg cufydd; yr oedd yn wag o'i mewn, a thrwch y metel yn bedair modfedd. 22Ar ei phen yr oedd cnap pres, a'i uchder yn bum cufydd, a rhwydwaith a phomgranadau o amgylch y cnap, y cwbl o bres. Ac yr oedd y golofn arall, gyda'i phomgranadau, yr un fath. 23Yr oedd naw deg a chwech o'r pomgranadau yn y golwg, a chant o bomgranadau i gyd, ar y rhwydwaith o amgylch.
Cymryd Pobl Jwda i Fabilon
2 Bren. 25:18–21, 27–30
24Cymerodd pennaeth y gosgorddlu Seraia y prif offeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a thri cheidwad y drws; 25a chymerodd o'r ddinas y swyddog oedd yn gofalu am y gwŷr rhyfel, a saith o ddynion o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ac ysgrifennydd pennaeth y fyddin, a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o'r werin a gafwyd yn y ddinas. 26Cymerodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, y rhai hyn, a mynd at frenin Babilon yn Ribla. 27Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i gwlad ei hun.
28Dyma'r bobl a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar: yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon; 29yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchadnesar, caethgludwyd o Jerwsalem wyth gant tri deg a dau o bobl; 30yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchadnesar, caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, saith gant pedwar deg a phump o Iddewon. Yr oedd y cyfanswm yn bedair mil chwe chant.
31Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, ffafr â Jehoiachin brenin Jwda, a'i ddwyn allan o'r carchar, 32a dweud yn deg wrtho, a pheri iddo eistedd ar sedd uwch na seddau'r brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon. 33Felly diosgodd ei ddillad carchar, a bu'n westai i'r brenin weddill ei ddyddiau. 34Ei gynhaliaeth oedd y dogn dyddiol a roddid iddo gan frenin Babilon, yn ôl gofyn pob dydd, holl ddyddiau ei einioes hyd ddydd ei farw.

Currently Selected:

Jeremeia 52: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy