YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 23

23
Gobaith i'r Dyfodol
1“Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr,” medd yr ARGLWYDD. 2Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: “Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld â chwi am eich gwaith drygionus,” medd yr ARGLWYDD. 3“Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon. 4Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.
5“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,
“y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn,
brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth,
yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
6Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwda
ac fe drig Israel mewn diogelwch;
dyma'r enw a roddir iddo:
‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.’
7“Am hynny, wele'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywed neb mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’, 8ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.’ ”
Neges Jeremeia am y Proffwydi
9Am y proffwydi:
Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu;
yr wyf fel dyn mewn diod, gŵr wedi ei orchfygu gan win,
oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.
10Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr,
ac o'u herwydd hwy#23:10 Felly llawysgrifau, Groeg a Syrieg. TM, llwon. y mae'r wlad wedi ei deifio,
y mae porfeydd yr anialwch wedi crino;
y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.
11“Aeth proffwyd ac offeiriad yn annuwiol;
o fewn fy nhŷ y cefais eu drygioni,” medd yr ARGLWYDD.
12“Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig;
gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno.
Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi,” medd yr ARGLWYDD.
13“Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus:
y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.
14Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll:
godinebu a rhodio mewn anwiredd;
y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus,
fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni.
I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra.”
15Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi:
“Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a dŵr bustl yn ddiod,
canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir.”
16Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD. 17Parhânt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD#23:17 Felly Groeg. Hebraeg, wrth fy nirmygwyr; dywedodd yr ARGLWYDD., ‘Heddwch fo i chwi’; ac wrth bob un sy'n rhodio yn ôl ystyfnigrwydd ei galon dywedant, ‘Ni ddaw arnoch niwed.’
18“Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD,
a gweld a chlywed ei air?
Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando?
19Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,
gan chwyrlïo fel tymestl,
a throelli uwchben yr annuwiol.
20Ni phaid digofaint yr ARGLWYDD
nes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni.
Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
21Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant;
ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.
22Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau,
a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.
23“Onid Duw agos wyf fi,” medd yr ARGLWYDD, “ac nid Duw pell?
24A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD.
“Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD.
25“Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’ 26Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain? 27Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal. 28Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd â'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?” medd yr ARGLWYDD.
29“Onid yw fy ngair fel tân,” medd yr ARGLWYDD, “ac fel gordd sy'n dryllio'r graig? 30Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd,” medd yr ARGLWYDD. 31“Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl,” medd yr ARGLWYDD. 32“Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.
Baich yr ARGLWYDD
33“Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, ‘Beth yw baich yr ARGLWYDD?’ dywedi wrthynt, ‘Chwi yw'r baich#23:33 Felly Groeg. Hebraeg, Beth yw'r baich?; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.’ 34Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, ‘Baich yr ARGLWYDD’, mi gosbaf hwnnw a'i dŷ. 35Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: ‘Beth a etyb yr ARGLWYDD?’ neu, ‘Beth a lefara'r ARGLWYDD?’ 36Ond ni fyddwch yn sôn eto am ‘faich yr ARGLWYDD’, oherwydd daeth ‘baich’ i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni. 37Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd hwnnw: ‘Pa ateb a roes yr ARGLWYDD iti?’, neu, ‘Beth a lefarodd wrthyt?’ 38Ac os dywedwch, ‘Baich yr ARGLWYDD’, yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, ‘Baich yr ARGLWYDD’, er i mi anfon atoch a dweud, ‘Peidiwch â defnyddio “Baich yr ARGLWYDD”,’ 39fe'ch codaf#23:39 Felly rhai llawysgrifau a'r Groeg. TM, mi a'ch llwyr anghofiaf. chwi fel baich a'ch taflu o'm gŵydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid. 40Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir.”

Currently Selected:

Jeremeia 23: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in